Dewislen
English
Cysylltwch

Fel Merch

Comisiynwyd y gerdd gan Urdd Gobaith Cymru i ddathlu Cynhadledd Genedlaethol #FelMerch a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2023. 

Fi yw’r troed sy’n curo’r pridd, 

trwy law a gwynt, be bynnag fydd. 

Fi yw’r gôl sy’n ennill y gêm, 

fi yw’r floedd, y deigryn, y gwen. 

Fi yw’r ryc â breichiau ynghlwm, 

fi yw’r ras a’r coesau trwm. 

Trwof i ddaw’r egni, trwof i ddaw’r anadl 

fi sy’n codi baner y genedl. 

 

Ond ni yw’r sbarc, a ni yw’r enaid: 

fel un ein fflam, un galon danbaid. 

Ni sy’n colli. Ni sy’n ennill. 

Ni yw’r gân, a fi ‘di’r pennill. 

Fel merch rwy’n chwarae, fel merch rwy’n brwydro, 

ac fel un côr mae’r gri’n adleisio. 

Fi yw’r drwm, a ni yw’r curiad: 

dyfalbarhad. Dewrder. Cariad.  

Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025

Nôl i Bardd Plant Cymru