Dewislen
English
Cysylltwch
Ar 10 Medi 2025, fe wnaethom ni a’n partneriaid gyhoeddi mai Siôn Tomos Owen fydd y 19eg Bardd Plant Cymru. Dechreuodd Siôn ar ei rôl yn swyddogol ym mis Medi.

Mae Siôn Tomos Owen yn awdur, bardd, artist a chyflwynwr dwyieithog o Dreorci yn Rhondda Fawr. Mae’n gweithio fel artist llawrydd creadigol yn darlunio, paentio murluniau a chynnal gweithdai creadigol. Roedd yn un o gyflwynwr cyfresi Cynefin a Pobol y Rhondda, roedd hefyd yn gyfrannwr comedi i raglenni Y Tŷ Rygbi, Jonathan ac Academi Gomedi.  Cyrhaeddodd ei gasgliad gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy’n Digwydd (Barddas) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, a’i gyhoeddiad diweddaraf yw nofel i blant o’r enw Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen (Atebol, 2025).  Mae wedi ‘sgwennu a darlunio nifer o lyfrau i blant a dysgwyr Cymraeg, ac mae ei farddoniaeth a’i straeon ar gwricwlwm newydd TGAU Cymraeg a Chymraeg ail iaith. 

Wrth drafod ei obeithion ar gyfer y rôl hon, dywedodd: “Fel Bardd Plant Cymru dwi am fagu’r creadigrwydd sydd ym mhob plentyn i greu, creu cerddi, straeon neu ddarluniadau, y doniol a’r dwys, ac i ddefnyddio’r rhain i feithrin y diddordeb mewn darllen wnaeth gydio ynof fi pan roedden i’r un oedran.” 

Nôl i Bardd Plant Cymru