Barddoniaeth Bob Dydd
Roedd y cyfle hwn yn croesawu ceisiadau gan feirdd yng Nghymru sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i fynychu cwrs rhad ac am ddim i fireinio eu crefft. Nod y preswyliad yw gwella sgiliau cyfranogwyr wrth ddatblygu cerddi a chasgliadau sy’n canolbwyntio ar adegau da a drwg bywyd bob dydd. Y tiwtoriaid yw Meleri Davies a Rhian Elizabeth. Y darllenydd gwadd yw Menna Elfyn.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer y cyfle hwn bellach wedi pasio.
Caiff Barddoniaeth Bob Dydd ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.