Dewislen
English
Cysylltwch

Menywod Cronig

Prosiect barddoniaeth yw Menywod Cronig sydd â’r nod o wella dealltwriaeth o gyflyrau iechyd menywod a chefnogi gwaith parhaus i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn gofal iechyd a chanlyniadau i fenywod yng Nghymru. 

Dyfeisiwyd gan Hanan IssaBardd Cenedlaethol presennol Cymru, a gafodd ei hysbrydoli gan Gynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024. Gweithiodd Hanan gyda Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, i ddatblygu’r syniad. 

Mae’r ddwy ymhlith 14 o awduron benywaidd o Gymru sydd wedi ysgrifennu cerddi wedi’u hysbrydoli gan eu profiad bywyd eu hunain o gyflyrau iechyd cronig ac anabledd ar gyfer blodeugerdd ddwyieithog o farddoniaeth. Y beirdd eraill yw Sioned Erin Hughes, Myfanwy Alexander, Mel Perry, Emma Smith Barton, Lal Davies, Bethany Handley, Nia Wyn Jones, Kandace Siobhan Walker, Rhian Elizabeth, Iola Ynyr, Durre Shawar a clare e potter.

Mi fu’r beirdd yn arwain cyfres o 10 gweithdy gyda menywod, merched a staff y GIG, o gwmpas Cymru ym mis Chwefror a mis Mawrth, gan ddefnyddio’r detholiad fel man cychwyn ar gyfer sgyrsiau ac yn archwilio’r rôl y gall barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol ei chwarae wrth gefnogi menywod sy’n byw gyda chyflyrau iechyd cronig. 

Cynheliwyd digwyddiad dathlu, gyda darlleniadau o’r detholiad ac ysgrifennu sy’n deillio o’r gweithdai, yn y Senedd ar 17 Mawrth. Yno, dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol Rhwydwaith Iechyd Menywod, Perfformiad a Gwella GIG Cymru;

“Mae barddoniaeth yn rhoi llais i brofiadau a all fod yn anodd eu mynegi: unigrwydd byw gyda phoen cronig, rhwystredigaeth peidio â chael eich credu, cymhlethdod llywio’r system gofal iechyd, a’r llawenydd a’r rhyddhad sy’n cyd-fynd â hyd yn oed eiliadau bach o gynnydd. Mae’n gadael i fenywod adrodd eu straeon eu hunain yn eu geiriau eu hunain, heb gyfyngiadau iaith feddygol na chategorïau clinigol.
Mae gwaith creadigol yn ein cysylltu ni—â ni ein hunain, â’n gilydd, ac â’r gwirionedd emosiynol y tu ôl i’r ystadegau. Mae’n grymuso menywod i adennill naratifau sydd weithiau wedi cael eu hanwybyddu neu eu camddeall. Ac i’r rhai ohonom sy’n gweithio ym maes iechyd, mae barddoniaeth ac adrodd straeon yn darparu mewnwelediadau sy’n dyfnhau ein empathi ac yn ehangu ein dealltwriaeth. Maent yn ein hatgoffa nad yw iachâd yn gorfforol yn unig; mae’n emosiynol, yn ddiwylliannol, ac yn gymunedol.”

Gwyneth Lewis, Hanan Issa a Dr Helen Munro

Cyhoeddir yr antholeg, Chronic Women Menywod Cronig gan Gwasg Honno ac mae hi ar werth yma; dosbarthir gopïau am ddim i feddygfeydd teulu a lleoliadau gofal iechyd eraill ledled Cymru yn hwyrach yn y Gwanwyn.

Mae prosiect Menywod Cronig wedi’i gynllunio a’i gyflwyno gan Llenyddiaeth Cymru ac yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Rhwydwaith Iechyd Menywod (Perfformiad a Gwella GIG Cymru); y Timau Celfyddydau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Gwasg Honno a chyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru. 

Fe’i hariennir gan Gronfa Loteri Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’r flodeugerdd wedi’i gwireddu gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.