Vic Beswick
MwyRobbie Brewster
MwyCatrin Cheung
MwyChinyere Chukwudi-Okeh
MwyLal Davies
MwyPete Evans
MwySteffan Gwynn
MwyMaggie Hampton
MwyNia Jones
MwyMegan Lloyd
MwyJay Teague
MwyPhilippa Ball Lewis
Mae Philippa Ball Lewis yn awdur a golygydd llawrydd o Gonwy. Mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi gan Folding Rock a The Dark Mountain Project, ac wedi cael eu rhoi ar restr fer Gwobr Stori Fer Dinesh Allirajah Comma Press (2024) a Gwobr Awdur Newydd Moniack Mhor (2025). Mae ganddi ddiddordeb mewn ysgrifennu am yr rhyfeddol a'r ffantastig neu arbrofi gyda llên gwerin, ac mae ei hysgrifennu'n aml yn cael ei ysbrydoli gan dirweddau Cymru. Mae Philippa yn gweithio ar gasgliad o straeon byrion ac yn gorffen ei nofel gyntaf yn araf deg.
Pan nad yw'n ysgrifennu na darllen, mae hi fel arfer i'w chael yn y mynyddoedd yn dringo/sgïo/rhedeg neu'n ceisio aros un cam ar y blaen i'w phlentyn bach, dwy gath a'i gŵr.
“Rwy'n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â chysylltu â'r awduron eraill ar y rhaglen, ac i ddysgu ganddyn nhw a chan fy mentor. Rwy'n edrych ymlaen at gael mwy o atebolrwydd a strwythur ar gyfer fy ysgrifennu, ac i allu neilltuo mwy o amser ac egni iddo dros y flwyddyn nesaf fel y gallaf ddatblygu fy sgiliau. Mae hwn yn gyfle mor anhygoel; rwy'n edrych ymlaen yn fawr i fwrw ati!”
Vic Beswick
Mae Vic Beswick yn nofelydd sy'n byw yn ne Cymru a bu’n gyfranogwr yn Rhaglen Awduron Newydd The London Library (2024–25). Ar hyn o bryd maent yn cwblhau eu nofel gyntaf, VIDEOTAPE, gwaith sydd â llinell amser ddeuol sy'n archwilio cariad hoyw, anhwylder deubegwn a galar.
“Rwy'n gweld y rhaglen hon fel cyfle i fireinio crefft a hyder ar gam allweddol yn fy natblygiad. Rwy'n edrych ymlaen at fod mewn sgwrs ag awduron eraill sydd yr un mor ymrwymedig i ddisgyblaeth y nofel. Gall ysgrifennu fod yn ynysig; rwy'n gobeithio elwa o drafodaeth drylwyr, mewnwelediad ymarferol i'r diwydiant, a'r atebolrwydd sy'n dod o weithio o fewn carfan.”
Robbie Brewster
Mae Robbie Brewster yn ddarlunydd/awdur a fagwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac sydd bellach yn byw ger Mynydd y Garth yn ne Cymru. Ysgrifennodd ei nofel gyntaf o'r enw 'Summerland' yn bymtheg oed ac aeth ymlaen i gyhoeddi ei nofel graffig 250 tudalen gyntaf yn 2016, ar ôl pum mlynedd yn y gwaith. Yn 2005, dewiswyd Robbie yn awdur/gyfarwyddwr yng nghynllun ffilmiau byrion 'Screen Gems' nodedig dan arweiniad Sgrîn Cymru, y mwyaf o'i fath yn Ewrop ar y pryd. Yn fwy diweddar, dychwelodd i astudio ac enillodd radd MA mewn darlunio o Brifysgol Falmouth. Yn 2023, cafodd ei roi ar y rhestr hir yn y 'Gystadleuaeth Nofel Graffig Gyntaf' gystadleuol iawn am ei nofel graffig 'Click Memory Brick'.
Mae Robbie yn angerddol dros adrodd straeon gweledol ac mae wedi ysgrifennu a darlunio chwe nofel graffig hunan-gyhoeddedig hyd yn hyn. Maent yn eistedd ar y silff gyda'i gasgliad helaeth o lyfrau celf, comics a nofelau graffig.
“Rwy’n gobeithio y bydd y cyfle unigryw hwn yn rhoi’r sgaffaldau, y sylfaen a’r blociau adeiladu i mi ysgrifennu’n hyderus gyda gwybodaeth a phrofiadau newydd. Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o garfan greadigol a chael fy nhrwytho mewn ysgrifennu.”
Catrin Cheung
Mae Catrin Cheung yn awdur Cymreig/Cantonaidd sy'n gweithio ar draws barddoniaeth, ffuglen fer a ffeithiol greadigol. Wedi'i magu ar Ynys Môn, mae hi bellach yn byw yn Nyffryn Nantlle, lle mae'n gweithio fel ymarferydd creadigol llawrydd ac athrawes ioga.
Wedi'i denu at farddoniaeth i ddechrau fel ffordd o leisio emosiynau cymhleth, mae ei gwaith yn archwilio ei threftadaeth gymysg, a beth mae hyn yn ei olygu yng Nghymru. Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf â gwreiddiau Cantonaidd, mae hi'n defnyddio barddoniaeth i lywio'r gofod rhwng y diwylliannau hyn. Mae ei gwaith yn plethu themâu hunaniaeth, natur ac ysbrydolrwydd. Mae Catrin yn un o bymtheg o feirdd a ddewiswyd ar gyfer y New Poets Collective (A Poet in Every Port) - rhaglen ddatblygu a hwylusir gan y Southbank Centre i gefnogi beirdd sy'n dod i'r amlwg. Enillodd ei darn micro-lenyddol, Dienw, gystadleuaeth Tudalen, sef cystadleuaeth llên meicro gyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2026.
“Drwy Cynrychioli Cymru rwy’n gobeithio magu hyder fel awdur, datblygu fy llais, a chryfhau fy nghrefft. Gyda chasgliad o farddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg sy’n cynyddu ond gyda mewnwelediad cyfyngedig iawn i’r sîn lenyddol Gymreig, rwy’n gobeithio dysgu am y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a sut i symud ymlaen a gobeithio cyhoeddi fy ngwaith.”
Chinyere Chukwudi-Okeh
Mae Chinyere Chukwudi-Okeh yn awdur ac ymarferydd o Nigeria, sy'n ysgrifennu ar draws genres. Mae ei barddoniaeth wedi'i chyhoeddi yn y Sọ̀rọ̀sóke: An #Endsars Anthology (Noirledge Poetry & Aflame Publishers, 2022); ymddangosodd ei stori fer gyfoes To Buy an Expensive Dream yn y casgliad Lipstick Eyebrows (Honno, 2023); ac mae hi hefyd yn gyfrannwr ac yn gyd-ddetholwr ar gyfer Many Roads-Women’s Personal Stories of Courage and Displacement in Wales, casgliad o atgofion menywod o wahanol rannau o'r byd sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru (Honno, 2024).
Mae Chinyere yn arwain gweithdai ysgrifennu creadigol mewn ysgolion a llyfrgelloedd ledled Cymru ac mae'n Sylfaenydd Canolfan C3 ar gyfer Creadigrwydd a Diwylliant CIC, a'r Nganga Performing Arts and Mobile Theatre, sefydliadau sy'n creu llwyfannau ar gyfer mynegiadau creadigol a diwylliannol. Mae hi'n aml yn adolygu llyfrau ar gyfer gwefan Nation.Cymru.
“Wrth ymuno â charfan Cynrychioli Cymru rwy’n plymio i mewn i fôr o gyfleoedd yn sector llenyddol Cymru. Rwy'n bwriadu manteisio ar y cyfle hwn i ymuno â rhwydwaith sy'n rhoi hediad a gwelededd i'm cynigion creadigol ac sy'n ysbrydoli fy nofel gyfredol.”
Lal Davies
Mae Lal Davies yn wneuthurwr ffilmiau arobryn (Gwobr EMWWAA am Gyfraniadau at Gelfyddydau a Diwylliant Cymru 2023) o dreftadaeth De India/De Iwerddon, gyda thair cenhedlaeth o'i theulu Indiaidd wedi'u geni yng ngogledd Cymru ers cyrraedd ym 1919. Mae Lal yn gwneud ffilmiau dogfen naratif person cyntaf/byr (Buckra Massa Pickney: Life of Enrico Stennett, Windrush Elder – Y Ffilm Fer Ddigyfyngiad Orau The Gogs International Film Festival 2022) ac mae ei ymarfer celf yn amlddisgyblaethol (Several Stages of Purification – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe 2025). Mae ei cherdd Hiding Injury yn ymddangos yn y flodeugerdd Chronic Women/Menywod Cronig (Honno, 2026). Bydd Lal yn defnyddio rhaglen Cynrychioli Cymru i ddatblygu ei barddoniaeth.
“Rwy'n gobeithio y bydd Cynrychioli Cymru yn rhoi'r amser, y lle a'r adnoddau dwys i mi ddysgu a chanolbwyntio ar ysgrifennu a gweld sut y gall potensial sydd i raddau heb ei gyflawni ddatblygu.”
Pete Evans
Mae Pete Evans yn awdur a thywysydd teithiau sy'n byw yn Wrecsam gyda gwreiddiau Cymreig/Romani. Ef yw awdur dwy gyfrol am afonydd: Resurrection River on the Alun (Gwasg Carreg Gwalch, 2017) a The Holy Dee (Llygad Gwalch Cyf, 2021). Ef a ysgrifennodd y testun ar gyfer llyfr byr i blant, Sali and the Call of the Curlew, a gyhoeddwyd gan Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Bannau Brycheiniog, The Game and Wildlife Conservation Trust, a Llywodraeth Cymru. Yn 2025 enillodd Wobr Llenyddiaeth Swydd Gaer yng Nghategori Ffuglen Fflach a chydweithiodd ar ysgrifennu stori ddirgelwch Death on the Stwnsh: The Wasabi Killings gyda grŵp Ysgrifennu Llyfrgell Gymunedol Hope.
Pan nad yw'n crwydro trwy hanes naturiol a threftadaeth gyfoethog y Gororau, gyda llyfr nodiadau yn ei law, mae'n mwynhau tywys twristiaid a grwpiau cymunedol o amgylch Gogledd Cymru a Chaer.
“Rwyf wedi bod yn gweithio’n ysbeidiol ar ddwy nofel dros y blynyddoedd diwethaf; rwy’n edrych ymlaen at weld y rhaglen yn rhoi’r strwythur cymorth sydd ei angen arnaf, i ganolbwyntio ar eu cwblhau. Rwy’n gobeithio y bydd mentora gan awdur profiadol a llwyddiannus yn dod â holl gynhwysion y rysáit hud at ei gilydd i fynd â fy nofelau hyd at eu cyhoeddi.”
Steffan Gwynn
Mae Steffan Gwynn yn bensaer tirwedd ac yn ymarferydd creadigol sydd yn tynnu ar hanes llafar, ysgrifennu celf, a dulliau ysgrifo i archwilio’r berthynas rhwng pobl a lleoedd. Mae ei waith yn symud rhwng y ddalen, y safle, a’r cyd-destun cymdeithasol, gan ystyried y dirwedd fel rhan annatod o’n byw a’n bod. Mae’n un o gyd-drefnwyr prosiect Map Dwfn Dyffryn Nantlle, ac yn ddiweddar bu’n rhan o sefydlu gofod yn Wrecsam ar gyfer gweithgareddau creadigol yn ymwneud â lle, gan gynnwys ffyrdd arbrofol a chydweithredol o fapio. Enillodd Wobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt yn 2024.
“Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle strwythuredig i ddatblygu fy ysgrifennu o fewn amgylchedd cefnogol a beirniadol. Byddai dod i gysylltiad â gwahanol ddulliau o greadigrwydd yn arbennig o werthfawr wrth fy helpu i feddwl am strwythur, llais, a phosibiliadau gwaith hirach.”
Maggie Hampton
Mae Maggie Hampton yn fardd o Bontypridd, a ddechreuodd golli ei chlyw yn 4 oed. Gweithiodd fel Hyfforddwr Cydraddoldeb i Bobl Anabl, gan ddod yn Gyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru yn y pen draw, gan weithio ledled Cymru i wella mynediad at y celfyddydau. Maggie yw golygydd Living Where the Nights Jive (Parthian, 2008) casgliad o straeon gan artistiaid benywaidd anabl. Mae pedair o'i cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi, yn fwyaf diweddar yn Tu Hwnt/Beyond (Lucent Dreaming, 2025) sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Discovery Book of the Year (British Book Awards 2026). Cafodd ei chomisiynu gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter a Deaf Gwdihŵ i ysgrifennu cerddi ar gyfer prosiect Our Freedom: Then and Now, i nodi 80 mlynedd ers dathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd, (V E Day) a dathlu buddugoliaeth dros Siapan (V J Day). Ar gyfer y prosiect hwn, dechreuodd y broses o ddysgu adrodd ei cherddi yn Iaith Arwyddion Prydain.
Mae Maggie yn benderfynol o beidio â gadael i anhygyrchedd sefyll yn y ffordd ac mae'n mwynhau manteisio ar bob cyfle i ddatblygu ei hysgrifennu.
“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o gymuned o awduron, adeiladu rhwydweithiau a datblygu’r sgiliau a fydd yn symud fy ysgrifennu ymlaen. Rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar ffyrdd creadigol o agor cyfleoedd i ddatblygu barddoniaeth o fewn y gymuned Fyddar.
Nia Jones
Mae Nia Jones yn fardd, awdur, a hanesydd. Gan ei bod yn aelod o Lyfrau Lliwgar, grŵp darllen LHDT+, ffurfiodd sylfaen gynnar ar gyfer bywyd creadigol. Mae Nia yn gyd-sylfaenydd grŵp cymunedol traws yng Ngwynedd, yn gyd-drefnydd Pride Gogledd Cymru, ac yn olygydd cylchgrawn hoyw newydd Queer Pages.Hwylusodd gyfres o weithdai zine ar gyfer y gymuned draws ac mae'n trefnu gigs a nosweithiau clwb i arddangos menywod traws fel cerddorion. Mae ei barddoniaeth wedi'i chyhoeddi yn y zine Rhych Newydd ac yn y casgliad barddoniaeth dwyieithog Menywod Cronig/Chronic Women (Honno, 2026). Mae Nia yn ymdrechu i greu llenyddiaeth sy'n draws, yn Gymreig ac yn yr iaith Gymraeg. Ar hyn o bryd mae hi'n datblygu casgliad o straeon byrion.
“Mae'r elfen o fentora yn bwysig iawn i mi - i ddatblygu fy nghasgliad, a hefyd i gael cyngor ar beth i'w wneud â'r gwaith ar ôl iddo gael ei ysgrifennu. Hefyd, bydd y broses o weithio a datblygu fy nghasgliad wrth rannu syniadau am ffuglen fel genre yn ddefnyddiol iawn.”
Megan Lloyd
Mae Megan Lloyd yn awdur, hwylusydd a pherfformiwr o Eryri sydd yn frwdfrydig am natur a'i pherthynas efo'r byd o'i hamgylch. Mae hi'n gweithio'n llawrydd ar sawl prosiect amlgyfrwng, gan gynnwys hwyluso gweithdai cymunedol, perfformio barddoniaeth lafar ac ysgrifennu a pherfformio ar gyfer y sioe theatr ddawns 'Q-fforia'.
Mae ei gwaith yn ymddangos mewn sawl blodeugerdd yn cynnwys O Ffrwyth Y Gangen Hon), a Trysorau'r Nadolig (y ddwy wedi eu cyhoeddi gan Barddas yn 2025) a sawl rhifyn o Ffosfforws (Cyhoeddiadau'r Stamp). Bydd hi'n cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi yn 2026 gyda Cyhoeddiadau'r Stamp. Enillodd y gystadleuaeth farddoniaeth lafar yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025, ac mae hi'n gobeithio cyhoeddi mwy o waith llafar yn y flwyddyn i ddod. Mae hi'n rhannu ei gwaith ar Instagram o dan yr enw @gwaithpapur.
“Byddaf yn gweithio ar brosiect cyffrous o gerddi newydd, ac yn eu cyflwyno mewn ffordd wahanol i'r arfer hefo pwyslais ar y gair llafar a cherddoriaeth geiriau. Credaf y bydd y flwyddyn yma o ddatblygu yn galluogi mi i gyrraedd y cam nesaf yn fy ngyrfa, drwy ddyrchafu fy ngwaith, dysgu gan arloeswyr y byd llenyddol a chodi fy hyder ym mhob agwedd o beth ydw i'n gwneud.”
Jay Teague
Mae Jay Teague yn fardd ac yn hwylusydd ysgrifennu a ddysgodd Saesneg am fwy nag ugain mlynedd cyn dod yn Ymarferydd Therapi Barddoniaeth a Mentor, gan weithio gydag unigolion a grwpiau yn rhyngwladol. Derbyniasant wobrau ac ysgoloriaethau gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Therapi Barddoniaeth a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru am waith arloesol yn y maes hwnnw. J yw sylfaenydd Out of the Blue Writing, sy'n hwyluso gweithdai, cyrsiau a rhaglenni hyfforddi ysgrifennu ar gyfer lles.
Mae eu barddoniaeth wedi ymddangos mewn amryw o gyhoeddiadau; Academi, Fire Magazine, Coffee House, Poets Online, Borderlines, ezine Refugee Week; ac yn Jericho & Other Stories & Poems (Cinnamon Press, 2012). Arddangoswyd nifer o'u cerddi ym mhrosiect 'Cyd-fyw â'r Tir' gyda gwaith artistiaid gweledol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2022.
Ar hyn o bryd maent yn y broses o lunio eu pamffled barddoniaeth cyntaf, gan archwilio themâu hunaniaeth, cariad, awydd a chymhlethdod perthnasoedd.
“Rwy'n credu y bydd y rhaglen yn fy nghefnogi i ddatblygu'r hyder i ddod i rym fy llais fy hun, yn ysgrifenedig ac ar lafar ac rwy'n edrych ymlaen at ehangu fy ngwybodaeth a'm profiad o'r byd llenyddol.”