Gwyneth Lewis
Llun: Edward Brown
Yr unig beth roedd Gwyneth Lewis erioed eisiau ei wneud oedd bod yn awdur. Wedi’i magu’n siarad Cymraeg yng Nghaerdydd, astudiodd Saesneg a threuliodd amser yn Yr Unol Daleithiau. Hi oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru a chyfansoddodd y geiriau chwe throedfedd o uchder sydd ar flaen adeilad Canolfan Mileniwm Cymru. Mae ei llyfrau ffeithiol yn cynnwys Sunbathing in the Rain: A Cheerful Book on Depression a Two in a Boat: A Marital Voyage, a Nightshade Mother: A Disentangling, a enillodd gategori Ffeithiol Greadigol yn ddiweddar yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2025. Cyrhaeddodd y gyfrol rhestr fer adran Lenyddiaeth y Sky Arts Awards 2025. Mae hi wedi cyhoeddi deg cyfrol o farddoniaeth, y diweddaraf yw First Rain in Paradise.
Cameron Myers
Mae Cameron Myers yn Olygydd Comisiynu yn Ebury, adran arbenigol ffeithiol greadigol Penguin Random House. Mae Cameron yn canolbwyntio ar gyhoeddi gwaith ffeithiol greadigol o safon uchel sy'n cynnig safbwyntiau ffres a straeon difyr i ddarllenwyr. Mae wedi comisiynu gwaith mewn ystod eang o feysydd, o faterion cyfoes a gwleidyddiaeth, i hanes a chofiannau, gan gynnwys awduron fel George the Poet (Track Record) ac Ashley John-Baptiste (Looked After). Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol i Creative Access; menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant yn y diwydiannau creadigol.
Bethany Handley
Mae Bethany Handley yn awdur, bardd ac ymgyrchydd anabledd arobryn o dde Cymru. Mae ei gwaith ysgrifennu yn archwilio mynediad at natur, ablaeth, a'r tirweddau sy'n ddylanwadau ffurfiannol- gan blethu creadigrwydd ag ymgyrchedd. Hi yw awdur Cling Film (Seren, 2025) a chyd-olygydd Beyond / Tu Hwnt , y flodeugerdd ddwyieithog gyntaf o awduron Byddar ac Anabl Cymru. Cyhoeddir ei chyfrol ddiweddaraf My Body is a Meadow: Finding Freedom in the Outdoors gan Headline ym mis Mai 2026.
Roedd Bethany yn awdur ar raglen Cynrychioli Cymru 2023-24 Llenyddiaeth Cymru, dyfarnwyd iddi Wobr Aur am Lyfrau Ffeithiol Creadigol yng Ngwobr Creative Future Writers 2023 a chafodd ei rhoi ar restr fer Gwobr Farddoniaeth Jerwood y Royal Society of Literature 2024. Cafodd ei henwi'n un o'r deg person anabl mwyaf dylanwadol sy'n gweithio ym maes gwleidyddiaeth, y gyfraith a'r cyfryngau yn y DU, ac yn un o'r 100 unigolyn anabl mwyaf dylanwadol yn y DU yn rhestr Disability Power 100 Ymddiriedolaeth Shaw.
Ochr yn ochr â'i gwaith llenyddol, mae Bethany yn cynghori sefydliadau a thirfeddianwyr ar wneud yr awyr agored yn fwy hygyrch. Mae hi hefyd yn llysgennad i Lwybr Arfordir Cymru, Ramblers Cymru, ac ymgyrch Mynediad i Bawb Country Living, lle mae hi'n hyrwyddo cydraddoldeb ym myd natur.
Gareth Evans-Jones
Mae Gareth Evans-Jones yn Ddarlithydd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, mae'n gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, ac yn llenor sy'n ysgrifennu mewn amryw ffurfiau. Mae Gareth wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, cyfrol o straeon byrion i blant, Llanddafad (a enillodd Wobr Dewis y Darllenwyr Tir na-nOg 2025), cyfrol o lên feicro a ffotograffau, Cylchu Cymru: Llun a Llên wrth Gerdded (a enillodd Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023), a chyfrol academaidd am gaethwasiaeth a'r Cymry yn America yn y 19g: 'Mae'r Beibl o'n tu' (GPC, 2023). Bu'n ffodus i ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (2019 a 2021) ac mae wedi sgriptio dramâu llwyfan, gan gynnwys Ynys Alys (Frân Wen, 2022).
Mae wedi cyfrannu cerddi i nifer o gyfrolau, cafodd ei gomisiynu i ysgrifennu Cerdd Groeso Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026, ac mae ei waith wedi ei gyfieithu i Bwyleg, Armaneg, Wrdw, Ladacî, a Tsiec. Gareth hefyd yw sylfaenydd y clwb darllen a'r fforwm ysgrifennu, Llyfrau Lliwgar, ac ef oedd golygydd y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth LHDTC+ yn y Gymraeg: Curiadau (Barddas, 2023). O ran ei waith academaidd, mae wedi cyd-olygu cyfrolau diweddar cyfresi Astudiaethau Athronyddol ac Ysgrifau Beirniadol, ac mae ei ddiddordebau'n helaeth, yn archwilio amrywiaeth ddiwylliannol, caethwasiaeth a rhyddid, Cristnogaeth, Iddewiaeth a Neobaganiaeth, moeseg a chymdeithas, heddychiaeth a llesiant, ac mae wedi cyfrannu i gyhoeddiadau amrywiol, gan gynnwys dadansoddiad beirniadol o gofiant dyrys John Ystumllyn gan Alltud Eifion yn Globalising Welsh Studies (UWP, 2024), a olygwyd gan Charlotte Williams a Neil Evans.