Cynrychioli Cymru 2027-2028
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch i ailagor ceisiadau ar gyfer Cynrychioli Cymru, ein rhaglen nodedig ar gyfer datblygu awduron, sydd yn cefnogi awduron sydd heb gynrychiolaeth deg i ddatblygu a mireinio eu crefft a datblygu eu sgiliau.
Gan ddechrau fis Ebrill 2027, bydd y rhaglen yn cefnogi carfan o 10 o awduron drwy gynnig y canlynol:
- Ysgoloriaeth ariannol o £3,000
- Mentor personol
- Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau
- Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr,
- Dosbarth Meistr preswyl dros benwythnos yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
- Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
- Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
- Rhaglen ôl-ofal bwrpasol