Dewislen
English
Cysylltwch

Mentoriaid

Bydd 14 awdur yn cynnig mentoriaeth i’r ail garfan o gyfranogwyr Cynrychioli Cymru. 

Ymhlith y Mentoriaid, mae rhai o awduron mwyaf cyffrous a llwyddiannus diwylliant llenyddol Cymru a thu hwnt: Tom Bullough, Rhian Edwards, Niall Griffiths, Philip Gross, Kerry Hudson, Cynan Jones, Patrice Lawrence, Sophie Mackintosh, Rufus Mufasa, Jacob Ross, Peter Scalpello, Katherine Stansfield, Rachel Trezise ac Eloise Williams.

Detholwyd y Mentoriaid wedi ymgynghori â’r awduron ar y rhaglen, ac mae’r Mentoriaid yn arbenigo ar ystod eang o genres, ac yn meddu ar arbenigedd proffesiynol. Maent wedi eu lleoli yng Nghymru a thu hwnt. At ei gilydd, mae eu gwaith wedi eu gyhoeddi’n fyd-eang, ac wedi eu cynnwys mewn gwobrau gan gynnwys y Jhalak Prize for Children and Young People, y Prix Femina Étranger, Waterstones’ Prize for Older Children’s Fiction, Gwobr Dylan Thomas, Gwobr T.S. Eliot Prize a Llyfr y Flwyddyn. Bydd eu profiadau, eu llwyddiant a’u creadigrwydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiad yr awduron yn y garfan, ac hefyd maes o law, ar y sector llenyddol ehangach.

Yn ystod y rhaglen bydd yr awduron yn elwa ar gefnogaeth olygyddol yn ogystal â chyngor arbenigol ar eu gyrfa fel awdur, wrth iddynt weithio tuag at gyflawni eu nodau unigol. Bydd y Mentoriaid wrth law er mwyn eu cynorthwyo i fireinio eu prosiectau creadigol i safon cyhoeddi, a byddant yn cynnig arweiniad ar ymgyfarwyddo â’r diwydiant, yn eu cyfeirio at gyfleoedd proffesiynol a chynorthwyo mynediad at rwydweithiau ehangach.

Gellir darllen rhagor am ail garfan o awduron Cynrychioli Cymru 2022-23 yma.

Tom Bullough
Yn mentora: Jon Doyle
Mwy
Rhian Edwards
Yn mentora: Alix Edwards
Mwy
Niall Griffiths
Yn mentora: Ben Huxley
Mwy
Philip Gross
Yn mentora: Alex Wharton
Mwy
Kerry Hudson
Yn mentora: Bridget Keehan
Mwy
Cynan Jones
Yn mentora: Anthony Shapland
Mwy
Patrice Lawrence
Yn mentora: Simone Greenwood
Mwy
Sophie Mackintosh
Yn mentora: Hattie Morrison
Mwy
Rufus Mufasa
Yn mentora: Anastacia Ackers
Mwy
Jacob Ross
Yn mentora: Rosy Adams
Mwy
Peter Scalpello
Yn mentora: Frankie Parris
Mwy
Katherine Stansfield
Yn mentora: Ciaran Keys
Mwy
Rachel Trezise
Yn mentora: Kittie Belltree
Mwy
Eloise Williams
Yn mentora: Amy Kitcher
Mwy
Tom Bullough
Yn mentora: Jon Doyle

Mae Tom Bullough yn awdur pedair nofel – roedd Addlands, y mwyaf diweddar yn portreadu saith deg o flynyddoedd ar fferm fynydd yn sir Faesyfed, yn destun pregeth yn Abaty Westminster. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i naw o ieithoedd. Cyhoeddir cyfrol ffeithiol greadigol gyntaf Tom, Sarn Helen: a Journey Through Wales, Past, Present and Future (darluniau gan Jackie Morris) gan Granta fis Chwefror 2023. Magwyd Tom ar fferm fynydd yn sir Faesyfed ac erbyn hyn mae’n byw ym Mannau Brycheiniog.

http://www.tombullough.com/

Cau
Rhian Edwards
Yn mentora: Alix Edwards

Mae Rhian Edwards yn fardd arobryn ac yn olygydd barddoniaeth i Seren Books.

Enillodd casgliad barddoniaeth cyntaf Rhian Clueless Dogs (Seren 2012) dair gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 – gwobr categori barddoniaeth, gwobr People’s Choice Award, a phrif wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn. Yn ogystal, roedd ar restr fer y Forward Prize for Best First Collection 2012.  

Roedd ail gasgliad barddoniaeth Rhian The Estate Agent’s Daughter (Seren 2020) yn un o gyfrolau dethol y National Poetry Day Recommended Read 2020.  

Mae Rhian wedi gyhoeddi dau bamffled o gerddi: Parade the Fib (Tall-Lighthouse 2008), roedd yn gyfrol ddethol Poetry Book Society Choice yn hydref 2008, a Brood (Seren 2017), pamffled o gerddi am adar, ynghyd â darluniau.

Enillodd Rhian wobr John Tripp Award for Spoken Poetry, pan gynhaliwyd y gystadleuaeth am y tro diwethaf, gan ennill Gwobr y beirniaid a Gwobr y gynulleidfa.

Mae cerddi Rhian wedi ymddangos yn The Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Spectator, Poetry London, Poetry Wales, Arete, London Magazine, Stand, Planet a New Welsh Review.  

Twitter: @RhianEdwards5

https://www.rhianedwards.co.uk/

Cau
Niall Griffiths
Yn mentora: Ben Huxley

Ganed Niall Griffiths yn Lerpwl ac erbyn hyn mae wedi byw yng nghanolbarth Cymru ers chwarter canrif. Mae Niall wedi cyhoeddi wyth o nofelau, hefyd barddoniaeth, hunangofiannau, gwaith ffeithiol greadigol, ac ysgrifennu taith. Enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn ddwy waith. Mae’n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Wolverhampton ac yn Gymrawd y Royal Society of Literature. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i ugain o ieithoedd, ac mae wedi darllen ei waith yn gyhoeddus ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica.

https://www.niallgriffiths.com/

Cau
Philip Gross
Yn mentora: Alex Wharton

Ganwyd Philip Gross, yng Nghernyw, yn fab i ffoadur o Estonia adeg yr ail ryfel byd. Mae Philip wedi byw yn ne Cymru ers 2004. Enillodd ei gyfrol The Water Table y T.S. Eliot Prize 2009, ac enillodd Love Songs of Carbon Wobr Roland Mathias yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2016. Derbyniodd Cholmondeley Award yn 2017. Mae’n hoff iawn o gydweithio gydag eraill, e.e. gyda’r artist Valerie Coffin Price ar A Fold In The River (Seren, 2015), gyda’r bardd Lesley Saunders ar A Part of the Main (Mulfran, 2018) a gyda gwyddonwyr ar Dark Sky Park (Otter-Barry, 2018). Mae wedi cyhoeddi tua ugain o gasgliadau o farddoniaeth, yn eu plith yw Islands (Bloodaxe, 2020) ac yn fwyaf diweddaf Troeon/Turnings (Seren, 2021), sef “trawsgyfieithu” (“translaboration”) - cyfieithu ac ymateb ar y cyd gyda’r bardd Cymraeg Cyril Jones. Cyhoeddir casgliad newydd o waith Philip gan Bloodaxe, The Thirteenth Angel, fis Tachwedd 2022. Yn y cyfamser, mae sawl cywaith ar y gweill.

Twitter: @philipgrossuk

www.philipgross.co.uk

Cau
Kerry Hudson
Yn mentora: Bridget Keehan

Ganwyd Kerry Hudson yn Aberdeen. Enillodd ei nofel gyntaf, Tony Hogan Bought Me An Ice-Cream Float Before He Stole My Ma wobr y Scottish First Book Award ac yn ogystal roedd ar restri byrion y gwobrau canlynol: Southbank Sky Arts Literature Award, Guardian First Book Award, Green Carnation Prize, Author’s Club First Novel Prize a’r Polari First Book Award. Enillodd ail nofel Kerry, Thirst, wobr ffuglen tramor y Prix Femina Étranger yn Ffrainc, ac roedd ar restr fer gwobr European Premio Strega yn yr Eidal.

Mae ei chyfrol ddiweddaraf, cofiant, Lowborn, yn mynd â hi yn ôl at drefi ei phlentyndod, wrth iddi ymchwilio ei gorffennol hi ei hun. Roedd y gyfrol yn Radio 4 Book of the Week, ac yn Lyfr y Flwyddyn yn The Guardian a The Independent. Roedd ar restr hir y Gordon Burn Prize a’r Portico Prize ac ar restr fer y National Book Token, Books Are My Bag Reader’s Awards a’r Saltire Scottish Non-Fiction Book of the Year. Etholwyd Kerry yn Gymrawd Royal Society of Literature yn 2020. 

Twitter: @THATKERRYHUDSON

https://kerryhudson.co.uk/

Cau
Cynan Jones
Yn mentora: Anthony Shapland

Mae Cynan Jones yn awdur arobryn ac yn hanu o arfordir gorllewin Cymru. Mae ei waith wedi ymddangos mewn dros ugain o wledydd, mewn cylchgronau megis Granta a The New Yorker. Mae hefyd wedi ysgrifennu sgript ar gyfer y gyfres ddrama deledu boblogaidd  Hinterland, casgliad o straeon ar gyfer plant a nifer o straeon ar gyfer Radio BBC. Mae wedi cyrraedd rhestri hir a rhestri byrion nifer o wobrwyon, ac wedi ennill, ymhlith eraill wobr Ffuglen Llyfr Y Flwyddyn, Gwobr Jerwood Fiction Uncovered, ac enillodd y BBC National Short Story Award.  

Twitter: @cynan1975

https://www.cynanjones.com/

Cau
Patrice Lawrence
Yn mentora: Simone Greenwood

Mae Patrice Lawrence yn awdur arobryn ar gyfer plant ac oedolion. Mae ei llyfrau ar gyfer oedolion ifainc wedi ennill nifer o wobrwyon, yn cynnwys y YA Prize, sef gwobr Waterstones Prize for Older Children's Fiction, enillodd y Crimefest YA Prize ddwy waith a hithau oedd enillydd cyntaf y Jhalak Prize for Children and Young People. Mae ei llyfr lluniau ar gyfer plant iau, Granny Came Here on the Empire Windrush  wedi cyrraedd rhestr fer yr Indie Book Awards.  Derbyniodd anrhydedd MBE am ei chyfraniad i lenyddiaeth fis Mehefin 2021. 

Twitter: @LawrencePatrice

Cau
Sophie Mackintosh
Yn mentora: Hattie Morrison

Ganwyd Sophie Mackintosh yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n byw yn Llundain.

Mae ei ffuglen a’i gwaith ffeithiol greadigol wedi ymddangos yn The New York Times, Granta, a The White Review, ymhlith eraill. Enwebwyd ei nofel gyntaf The Water Cure, ar gyfer y Man Booker Prize 2018, ac fe gyhoeddwyd ei hail nofel, Blue Ticket, yn 2020. Cyhoeddir ei trydedd nofel, Cursed Bread, yn 2023. 

Twitter: @fairfairisles

https://www.sophiemackintosh.co.uk/  

Cau
Rufus Mufasa
Yn mentora: Anastacia Ackers

Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, yn weithredydd llenyddol, yn fardd, yn rapiwr, yn gantores gyfansoddwraig, yn wneuthurwr theatr, ac yn olaf ond nid yn lleiaf, yn Fam.

O Gymrawd Barbican i Fardd Preswyl cyntaf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, gan sicrhau preswyliadau llenyddol o Ŵyl Lenyddiaeth y Gelli i Sweden, y Ffindir, Indonesia, ac yn fwyaf diweddar Zimbabwe, ond mae bob amser yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, Cymru, gan hyrwyddo addysg hip hop, perfformio barddoniaeth, a datblygiad rhwng cenedlaethau, a chafodd ei phenodi yn Fardd ar Bresgripsiwn 2021. Roedd yn ‘Artist Hull 19’ fel rhan o fenter y BBC Contains Strong Language. Flashbacks and Flowers yw ei chasgliad cyntaf, a gyhoeddwyd gan Indigo Dreams, a wobrwywyd am eu harloesedd yn cyhoeddi, ac mae hefyd wedi rhyddhau ail albwm unigol yn 2021. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth, anhrefn hinsawdd, trawma traws-genhedlaeth, y dwyfol a’r domestig, ffeministiaeth a ffydd.

Twitter: @rufusmufasa

https://www.rufusmufasa.com/

Cau
Jacob Ross
Yn mentora: Rosy Adams

Mae Jacob Ross yn awdur, tiwtor, mentor ac yn Olygydd Cynorthwyol Ffuglen gyda Peepal Tree Press – cyhoeddwr annibynnol amlwg o lenyddiaeth Caribïaidd, Affricanaidd ac Asiaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi bod yn feirniad ar gyfer nifer fawr o wobrau, yn cynnwys y Commonwealth Writers Short Prize, y Scott Moncrieff Translation Prize, a gwobrau VS Pritchett a Tom Gallon.

Mae’n diwtor profiadol, yn hyfforddi ar grefft naratif, ac mae’n cynnal nifer o weithdai ysgrifennu creadigol yn y DU a thramor. Mae ei ffuglen wedi ennill nifer o wobrau, ac yn ddiweddar roedd un o’i gyfrolau yn rhestr Jiwbili’r Frenhines, yn cynnwys ffuglen gorau’r gymanwlad ar gyfer pob degawd o deyrnasiad Ei Mawrhydi.

Mae Jacob Ross yn Gymrawd y Royal Society of Literature. 

Cau
Peter Scalpello
Yn mentora: Frankie Parris

Mae Peter Scalpello yn fardd cwiar a therapydd o Glasgow. Mae eu gwaith wedi ymddangos yn Five Dials, Granta, a The London Magazine, ymysg cyhoeddiadau eraill. Mae eu casgliad barddoniaeth cyntaf, Limbic, wedi ei gyhoeddi gan Cipher Press. 

Twitter: @p_scalpello

Cau
Katherine Stansfield
Yn mentora: Ciaran Keys

Mae Katherine Stansfield yn fardd a nofelydd aml-genre. Enillodd ei chyfres trosedd hanesyddol Cornish Mysteries wobr Holyer an Gof Fiction Prize ac fe gyrhaeddodd Restr Fer Winston Graham Memorial Prize. The Mermaid's Call yw’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres hon. Mae hefyd, gyda’i chymar David Towsey, yn gyd-awdur trioleg ffantasi a throsedd; maent yn cyhoeddi dan enw D. K. Fields. Yn ogystal mae wedi cyhoeddi dau gasgliad cyflawn o farddoniaeth, ynghyd â phamffled barddoniaeth gyda Seren. Mae Katherine yn gyd-olygydd, gyda Caroline Oakley, y gyfrol Cast a Long Shadow: straeon byrion trosedd gan ferched o Gymru, a gyhoeddir gan Honno. Mae’n dysgu ysgrifennu creadigol mewn nifer o brifysgolion, a bu’n Gymrawd y Royal Literary Fund. Yn 2021, ynghyd â chyd-aelodau Crime Cymru – sef cylch o awduron trosedd o Gymru, lansiodd Katherine wobr newydd ar gyfer awduron newydd sy’n ysgrifennu am drosedd.

Twitter: @K_Stansfield

http://katherinestansfield.blogspot.com/

Cau
Rachel Trezise
Yn mentora: Kittie Belltree

Mae Rachel Trezise yn nofelydd a dramodydd o Gwm Rhondda. Cafodd ei nofel gyntaf In and Out of the Goldfish Bowl ei gynnwys ar yr Orange Futures List yn 2002. Yn 2006 enillodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion Fresh Apples Wobr Dylan Thomas. Enillodd ei hail gasgliad o straeon byrion Cosmic Latte yr Edge Hill Prize Readers Award yn 2014. Bu ei drama diweddaraf ‘Cotton Fingers’ ar daith o gwmpas Iwerddon a Chymru ac enillodd y Summerhall Lustrum Award yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin yn 2019. Cyhoeddwyd ei nofel diweddaraf Easy Meat yn 2021. 

Twitter: @RachelTrezise

Cau
Eloise Williams
Yn mentora: Amy Kitcher

Eloise Williams oedd y Children’s Laureate Wales cyntaf yn ystod 2019-2021, rôl llysgenhadol genedlaethol o dan adain Llenyddiaeth Cymru.

Wedi hyfforddi’n wreiddiol mewn Theatr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru aeth ymlaen i weithio fel actor, gwneuthurwr theatr ac ymarferydd creadigol am dros ddegawd, cyn ennill Gradd Meistr gydag anrhydedd mewn Ysgrifennu Creadigol ac Ysgrifennu i’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe yn 2011. Ers hynny mae wedi cyhoeddi Elen’s Island, Gaslight, Seaglass, a Wilde gyda Firefly Press, The Tide Singer gyda Barrington Stoke, a The Mab – ail-adroddiad o straeon y Mabinogi, gyda gwasg Unbound.

Twitter: @Eloisejwilliams

https://eloisewilliams.com/

Cau