Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Ionawr 2025
Amser: 6.00-7.30pm
Pris: Am ddim
Iaith: Saesneg
Cofrestrwch yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_E1p-GfmXQHyDLGHy5HeoUw
Ymunwch â ni am weminar deinamig lle bydd Clare yn ymdrin ag agweddau amrywiol ar adeiladu brand eich awdur, gan gynnwys adeiladu dilyniant, marchnata eich llyfr cyntaf, a sut i gadw momentwm.
Gwybodaeth am Clare Mackintosh
Mae Clare Mackintosh wedi gwerthu dros 2 filiwn o gopïau o’i llyfrau ledled y byd, wedi cyrraedd brig y rhestrau gwerthu ac wedi ennill sawl gwobr, a hi yw awdur I Let You Go (Little Brown, 2015), a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times a’r New York Times, a’r llyfr gan awdur trosedd newydd a werthodd gyflymaf yn 2015. Fe enillodd Nofel Trosedd y Flwyddyn Theakston Old Peculier yn 2016 hefyd. Cyrhaeddodd ail a thrydedd nofel Clare, I See You (Little Brown, 2017) a Let Me Lie (Little Brown, 2018), frig rhestrau gwerthiant y Sunday Times. Cafodd ei thair nofel gyffro gyntaf eu dewis ar gyfer Clwb Llyfrau Richard & Judy, a gyda’i gilydd maen nhw wedi’u cyfieithu i dros ddeugain o ieithoedd. Cafodd After the End (Little Brown, 2019) ei chyhoeddi yn 2019 a chyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times ar unwaith, ac yn 2021 saethodd Hostage (Little Brown, 2021) i’r deg uchaf. Mae ei chyfres drosedd newydd, sy’n cynnwys y ditectif o Gymru DC Ffion Morgan, wedi derbyn canmoliaeth feirniadol, gyda The Last Party (Little Brown, 2023) ac A Game of Lies (Little Brown, 2023) yn cyrraedd rhestr deg uchaf y Sunday Times. Gyda’i gilydd, mae ei llyfrau wedi treulio dros 65 o wythnosau yn rhestrau goreuon gwerthiant y Sunday Times. Mae Clare yn byw yn y gogledd gyda’i theulu.