Dewislen
English
Cysylltwch

Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Medi 2024 

Amser: 6.00 pm – 7.00 pm 

Pris: Am ddim 

Iaith: Saesneg

Cofrestrwch yma: Webinar Registration – Zoom

Hoffech chi ddysgu am ddiwydiant cyhoeddi y Deyrnas Unedig? Ydych chi’n paratoi i anfon eich gwaith at gyhoeddwr?  Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru a thri siaradwr o’r byd cyhoeddi ar draws y DU am noson o drafod a rhannu gwybodaeth. Bydd pob siaradwr yn rhoi cyflwyniad 10 munud ar eu gwasg, ac yn cynnig manylion am y genres y maent yn eu cyhoeddi, dyddiadau allweddol a chyngor ar sut i fachu sylw cyhoeddwr.

Y siaradwyr 

Mae Cameron Myers yn Olygydd Comisiynu yn Ebury, adran arbenigol ffeithiol greadigol Penguin Random House. Mae Cameron yn canolbwyntio ar gyhoeddi ffeithiol greadigol o ansawdd uchel sy’n cynnig safbwyntiau ffres a straeon difyr i ddarllenwyr. Mae wedi comisiynu ystod eang o feysydd, o faterion cyfoes a gwleidyddiaeth, i hanes a chofiannau, gan gynnwys awduron fel George the Poet (‘Track Record’) ac Ashley John-Baptiste (‘Looked After’). Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol i Creative Access, menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant yn y diwydiannau creadigol.

Laura Jones-Rivera yw cyd-sylfaenydd a chyd-gyhoeddwr y 404 Ink, a enwyd yn ddiweddar yn Wasg Bach y Flwyddyn yr Alban gan y British Book Awards yn 2024. Mae hi wedi cyd-redeg 404 Ink ers ei sefydlu yn 2016 tra hefyd yn gweithio i nifer o gyhoeddwyr eraill fel Charco Press, Bloomsbury, Cipher Press, a llawer mwy. Cyn hynny roedd hi’n Gyhoeddwr Dros Dro Dead Ink a chafodd ei henwi’n ‘Rising Star’ gan Bookseller.

Pru Rowlandson yw Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Chyhoeddusrwydd Granta Books a Granta Trust. Cyn gweithio yn Granta, hi oedd rheolwr cyhoeddusrwydd Canongate Books, ac yn Random House. Fel cyhoeddwr, mae hi wedi hyrwyddo amrywiaeth eang o weithiau llenyddol gan gynnwys llyfrau gan enillwyr Gwobr Booker, Yann Martel, Eleanor Catton a Jenny Erpenbeck. Yn 2005 creodd a chyfarwyddodd yr Debut Authors Festival a barhaodd am dair blynedd. Cyn ei gyrfa gyhoeddi, bu’n llyfrwerthwr yn Pan Bookshop a Books for Cooks.

Nôl i Sesiynau Cyhoeddus