Dewislen
English
Cysylltwch

Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2024

Amser: 6.00pm-7.30pm

Pris: Am ddim

Iaith: Cymraeg (cyfieithu ar y pryd ar gael)

Cofrestrwch yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN__IE2DJKBQkuKEmhqWm5b_A

 

Ydych chi’n ystyried cael cynrychiolaeth gan asiant? Ydych chi’n gwybod sut i ddod o hyd i asiant? Neu chreu pecyn cyflwyno? Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru a dau asiant am noson o drafod a rhannu gwybodaeth.  Yn ystod y sesiwn, bydd pob siaradwr yn rhoi manylion am yr hyn sy’n gwneud i waith awdur sefyll allan ac yn rhoi gair o gyngor ac awgrymiadau ar sut i wneud i’ch gwaith ddisgleirio.

Bydd y sesiwn yn cynnwys trafodaeth 1 awr, ac yna sesiwn holi ac ateb 30 munud.

Y siaradwyr

Mae Elinor Davies yn asiant cyswllt yn Asiantaeth Lenyddol Madeleine Milburn, ac yn cynrychioli awduron sy’n ysgrifennu ffuglen fasnachol ac arloesol i oedolion. Dechreuodd ei gyrfa fel asiant gyda’r cwmni yn 2021 yn dilyn cwblhau gradd mewn Cyfryngau Cyhoeddi ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Mae Elinor hefyd wedi ymgymryd â rolau golygu a mentora amrywiol gyda sefydliadau sy’n canolbwyntio ar awduron gan gynnwys Asian Women Writers, Jericho Writers ac Academi Faber.

Dechreuodd Anwen Hooson ei gyrfa yn adrannau’r wasg yn Penguin a Waterstones, cyn cyd-sefydlu Riot Communications, a ddaeth yn gyflym yn un o’r asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus mwyaf uchel ei barch a dylanwadol yn y diwydiant cyhoeddi. Yn 2018, lansiodd Anwen Bird Literary Agency, gyda’r bwriad o fagu llyfrau a fyddai’n ysbrydoli ac yn pryfocio. Ymhlith ei hawduron mae Caryl Lewis, Liz Hyder, Kirsty Capes, Huw Aaron, Jodie Lancet-Grant a Moira Buffini. Roedd Anwen yn feirniad yn y British Book Awards 2018-2022, a cafodd ei henwebu ar gyfer y wobr Asiant Llenyddol y Flwyddyn yng y British Book Awards 2023.

Nôl i Sesiynau Cyhoeddus