Dewislen
English
Cysylltwch

LLIF

Roedd LLIF yn breswylfa lle ymgartrefodd 14 o awduron o Ewrop yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am bron i bythefnos rhwng 17-29 Mai 2025, cyn teithio lawr i Ŵyl y Gelli ar gyfer diwrnod o weithgareddau, dathlu, rhwydweithio ac yna ffarwelio ar ddiwedd cyfnod creadigol dwys yng nghwmni ei gilydd.

Daw 9 awdur o’r 14 o wledydd amrywiol yn Ewrop: Y Swistir, Catalonia – Sbaen, Yr Almaen, Estonia, Latfia, Slofenia,  Hwngari, Ynysoedd y Ffaröe, a Ffrisia – Yr Iseldiroedd. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar i sawl sefydliad amrywiol, dan arweiniad ac anogaeth EUNIC Llundain, am noddi ymweliad yr awduron rhain â Chymru.

Mae’r 5 awdur arall yn cynrychioli rhai o feirdd mwyaf sefydliedig a disglair Cymru – yn lysgenhadon dros ein llenyddiaeth, dros y Gymraeg, a dros hynodrwydd Cymru fel gwlad arloesol ei chreadigrwydd.

Cewch ddarllen rhagor am yr awduron isod, ynghyd â phartneriaid, noddwyr a chefnogwyr preswylfa LLIF.

Ymysg rhai o brif themâu yr encil roedd yr argyfwng hinsawdd, ecoleg, byd natur a chymdeithas, a bydd sawl un o’r awduron yn edrych ar y pynciau rhain drwy ffenestr ieithoedd a thafodieithoedd lleiafrifol yn cynnwys y Gymraeg, y Gatalaneg, y Ffaroeg, y Latgaleg a mwy.

Trefnwyd rhaglen o sgyrsiau, teithiau a gweithdai ar gyfer y garfan i ysgogi cydweithio, rhannu ymarfer da, a phrosiectau newydd dros Ewrop.

Rydym yn falch o gael rhannu ffilm sy’n crynhoi’r breswylfa ac yn arddangos gwerth y cyfnod hwn o rannu ieithoedd a diwylliannau. Crëwyd y ffilm gan Rhys Edwards, ac fe’i hariannwyd gan Lysgenhadaeth y Swistir.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod ddiolchgar i’n cyllidwyr a’n partneriaid sydd wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl: EUNIC Llundain (a naw o’u haelodau), Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Prydeinig, Llenyddiaeth dros Ffiniau, a Gŵyl y Gelli.