Dewislen
English
Cysylltwch

Enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2026

Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026 – Noddir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
a’r Wobr Farddoniaeth – Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd

Mae, Mererid Hopwood (Cyhoeddiadau Barddas)

Dyma ail gyfrol o gerddi gan y Prifardd Mererid Hopwood. Yn y casgliad hwn cawn flas ar ddeng mlynedd o ganu caeth a rhydd ers cyhoeddi Nes Draw (Gomer, 2015). Rhwng y cloriau mae cerddi am heddwch, anghyfiawnder, yr amgylchfyd, bod yn fam ac yn fam-gu – a llawer mwy. Mae’r cyfan yn troi ar echel y gerdd Newid y Drefn sy’n cloi gyda’r geiriau cofiadwy ‘a threch nag anobaith troi dy gefn, yw gwybod dy galon: rhaid newid y drefn’.

Dywedodd Ifor ap Glyn ar ran y panel beirniadu:
“Aeth deng mlynedd heibio ers cyhoeddi casgliad diwethaf Mererid, ond bu’n werth aros am y gyfrol swmpus hon. Mae’r ferf syml sy’n rhoi teitl i’w chasgliad hi  – ‘mae’ – ar yr un pryd yn ddatganiad athronyddol ynghylch breuder bywyd, ond hefyd yn nodweddiadol o ddiddordeb mawr Mererid mewn iaith – sut mae’n gweithio, a sut y byddwn yn ei rhannu. Bardd rhyngwladol ei gorwelion yw Mererid ac mae sawl cerdd yma sy’n datgelu ei hymrwymiad i’r ymgyrch dros heddwch. Mae ‘na dynerwch yn ei chanu; ond mae’na daerineb hefyd; ac yn fwy na dim mae’na obaith.”

Mae’r Prifardd Mererid Hopwood yn drysor cenedl, ac wrth gwrs, hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, 2001. Mae hi wedi cyhoeddi nifer lawer o gyfrolau i oedolion a phlant ac wedi cael ei gwobrwyo am ei hymroddiad a’i thalentau. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Nes Draw, gyda Gomer yn 2015 a enillodd Categori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn y flwyddyn ganlynol yn 2016. Mae (Cyhoeddiadau Barddas, 2025) yw ei hail gyfrol o farddoniaeth. Mererid yw Archdderwydd Gorsedd y Beirdd 2024-2027 ac mae hi hefyd yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Wales Book of the Year 2026 – Noddir gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd
a’r Wobr Ffuglen – Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies 

A Room Above a Shop, Anthony Shapland (Granta)

 

Pan fydd dau ddyn tawel yn ffurfio cysylltiad ansicr, nid yw’r naill na’r llall yn gwybod i ble y gallai arwain. Mae M wedi etifeddu busnes haearnwerthwyr ei deulu, ac mae B un mlynedd ar ddeg yn iau ac yn methu gweld unrhyw ddyfodol yn y lle y mae wedi tyfu i fyny ynddo. Ond pan fydd M yn cynnig swydd a llety iddo, mae’n derbyn. Wrth i’r ddau weithio ochr yn ochr yn y siop, maent hefyd yn dechrau adeiladu bywyd gyda’i gilydd yn yr un ystafell uwchben—y math o fywyd na wnaethant erioed ddychmygu oedd yn bosibl, ac un sy’n peryglu popeth pe bai eu perfformiad cyhoeddus yn llithro.

Yn datblygu yn ne Cymru yng nghyfnod a chefndir Adran 28, y ddadl ynghylch oedran cydsynio, ac argyfwng HIV ac AIDS, mae hon yn stori gariad dyner ac atseiniol, ac yn nofel gyntaf bwerus.

Tyfodd Anthony Shapland i fyny ym Margoed, yn ne Cymru. Mae’n awdur ac yn artist, ac yn sylfaenydd g39, gofod sy’n cael ei arwain gan artistiaid yng Nghaerdydd. Cyrhaeddodd ei stori fer Foolscap restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies, a chafodd Antony ei ddewis ar gyfer rhaglen, Awduron wrth eu Gwaith 2023 yng Ngŵyl y Gelli. Dyma ei nofel gyntaf.

 

Enillwyr Cymraeg

Gwobr Ffuglen - Noddir gan Cyfrifwyr HSJ

Tri, Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)

Cafodd Ronan Evans ddeunaw mlynedd o jêl. Bai ar gam. Medda fo. Rŵan, mae o allan, ac mae tri dyn wedi marw o fewn tridiau. Dialedd? ‘Ta cyd-ddigwyddiad sinistr? A be ydi arwyddocâd y rhif 3? Dyma rai o’r cwestiynau mae’n rhaid i Kiely ac O’Shea eu hateb, tra’n dal i drio gwneud synnwyr o’u teimladau cymhleth tuag at ei gilydd.

***

Sonia Edwards yw un o’n hawduron mwyaf profiadol a chynhyrchiol. Daw’n wreiddiol o Gemaes, Ynys Môn. Yn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 1996 a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999 a 2017, mae’n awdur sawl cyfrol o ryddiaith i blant, pobl ifanc ac oedolion.

Gwobr Ffeithiol Greadigol - Noddir gan Stori Cymru

Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau ‘Atgof’ Prosser Rhys, Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)

Ychydig dros ganrif ers i Prosser Rhys ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924, dyma ddilyn llwybrau ei bryddest enwog, ‘Atgof’. Ar daith rhwng Ceredigion a Chaernarfon codir pob math o ystyriaethau nid yn unig am lenyddiaeth LHDTC+, rhagfarn a sensoriaeth, ond hefyd am wreiddiau, magwraeth, bro, mudo, salwch a’r profiad o fod yn Gymro ifanc a chanddo rywbeth y mae’n ysu i’w ddweud.

***

Magwyd Iestyn Tyne yn Llŷn ac mae bellach yn byw yn Arfon gyda’i deulu. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o farddoniaeth a nofel i oedolion ifanc, ac roedd yn un o olygyddion Welsh (Plural) (Repeater Books, 2022), y gyfrol o ysgrifau ar ddyfodol Cymru. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion gwasg annibynnol Cyhoeddiadau’r Stamp ac yn un o Gymrodorion Cymru’r Dyfodol 2023-25. Yn 2024 fe’i penodwyd yn Fardd y Dre cyntaf Caernarfon.

Gwobr Plant a Phobl Ifanc – Cefnogir gan Cronfa Elw Park-Jones

Y Cae Ras, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Nofel am deulu, am gariad, am bêl-droed – ac am gefnogi tîm Wrecsam i’r carn. Mae Danny yn ddeuddeg oed ac mae ei fywyd yn gymhleth. Mae Mam wedi cael cariad newydd sydd ddim at ddant Mali, ei efaill, a daw hyn â newid byd i’r teulu bach sy’n byw yng nghysgod y Cae Ras.

***

Mae Manon Steffan Ros yn ddramodydd ac yn awdur llawn amser. Mae wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau, ac wedi ennill Gwobr Tir na n-Og bedair gwaith (Trwy’r Tonnau yn 2010; Prism yn 2021, Pluen yn 2017 a Fi a Joe Allen yn 2019, oll wedi eu cyhoeddi gan Y Lolfa). Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2018 gyda’i nofel boblogaidd Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa, 2020) sydd bellach wedi gwerthu miloedd o gopïau ac wedi’i chyfieithu i sawl iaith. Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Rhostryfan.

Gwobr Barn y Bobl Golwg360

Trochi, Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)

Cyfrol gyntaf Prifardd y Gadair  Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 2024. Dawn y bardd ar ei orau yn y mesurau caeth a rhydd.

***

Mae Carwyn Eckley yn 30 oed ac yn hanu o Benygroes, Dyffryn Nantlle. Mae’n byw yng Nghaerdydd efo’i wraig Siân a’u ci, Bleddyn, ac yn gweithio fel newyddiadurwr gydag Adran Gymraeg ITV Cymru, sy’n cynhyrchu rhaglenni Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le. Mi daniwyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth pan roddodd ei fam gopi o stori Harry Potter yn ei law fel bachgen ifanc iawn, cyn dechrau ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg dan arweiniad Ms Eleri Owen yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Astudiodd Gymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a dysgu i gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury. Enillodd y Gadair Ryng-golegeol yn ystod ei drydedd flwyddyn yno, cyn ennill Cadair yr Urdd yn 2020-21. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon efo Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur, sydd wedi ennill y gyfres bum gwaith.

Enillwyr Saesneg

Gwobr Farddoniaeth - Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd

The Storm’s Flora, Laura Wainwright (Seren Books)

Mae casgliad cyntaf Laura Wainwright yn archwiliad pwerus o wydnwch yn wyneb argyfyngau ecolegol a dynol. Yma, mae bywyd newydd yn dod i’r amlwg o dywyllwch a chynnwrf, ac yn ffynnu er gwaethaf hynny. Mae’r cerddi hyn yn cynnig arsylwadau syfrdanol o’r byd naturiol, wedi’u gwreiddio yn iaith, tirweddau a hanesion Cymru. Wedi’u hadrodd gan awdur â chlust cerddor a llygad artist am fanylion, mae The Storms Flora yn dathlu harddwch bywiog y ddaear gyda dawn a dyfeisgarwch.

***

Ganwyd Laura Wainwright yng Nghaerdydd a chafodd ei magu yng Nghasnewydd, Gwent, lle mae’n dal i fyw. Mynychodd yr ysgol yng Nghasnewydd ac yna Brifysgol Caerdydd, lle enillodd raddau BA, MA a PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg. Canolbwyntiodd ei thesis PhD ar lenyddiaeth Gymreig Saesneg ei hiaith, ac fe’i cyhoeddwyd yn ddiweddarach fel New Territories in Modernism: Anglophone Welsh Writing, 19301949 gan Wasg Prifysgol Cymru.

Mae Laura hefyd wedi cyhoeddi pamffledi barddoniaeth, Air and Armour (Green Bottle Press, 2021) – canlyniad Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru – a Coedcernyw: among other things (Clutag Press, 2023). Cyhoeddwyd Thrall: Poems and Art, ar y cyd gyda Robert Minhinnick, cyfrol sy’n cynnwys barddoniaeth a gwaith celf Laura, ym mis Chwefror 2025 gan Seventh Quarry Press.

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Children of Radium: A Buried Inheritance, Joe Dunthorne (Hamish Hamilton)

Ers blynyddoedd, roedd Joe Dunthorne wedi dymuno ysgrifennu am ei hen-daid , Siegfried: gwyddonydd ecsentrig a ddyfeisiodd bast dannedd ymbelydrol, a ffoadur Iddewig o’r Natsïaid a ddychwelodd i’r Almaen dan orchudd Gemau Olympaidd Berlin i gyflawni lladrad yn ei gartref ei hun. Yr unig broblem oedd bod Siegfried eisoes wedi ysgrifennu llyfr am ei fywyd -cofiant o ddwy fil o dudalennau heb ei gyhoeddi, mor sych a dryslyd fel nad oedd yr un o’i ddisgynyddion byw wedi llwyddo i’w ddarllen. Ac, fel y daeth i’r amlwg pan ddarllenodd Joe y llawysgrif ei hun o’r diwedd, roedd yn adrodd stori wahanol iawn i’r un yr oedd yn meddwl ei fod yn ei hadnabod.

Felly mae dirgelwch yn dechrau sy’n ymestyn ar draws yr ugeinfed ganrif ac o amgylch y byd, o Berlin i Ankara, Efrog Newydd, Glasgow ac yn y pen draw Llundain – dirgelwch am gynhyrchu rhywbeth llawer mwy sinistr na phast dannedd. Wrth olrhain un ‘hen daid llawen’ â hanes seiciatrig ansicr a gwybodaeth wyddoniadurol am nwyon gwenwynig, mae Joe Dunthorne yn cael ei orfodi i wynebu’r cwestiynau anghyfforddus sydd wrth galon pob teulu. A allwn ni byth ddeall o ble rydyn ni’n dod? A yw pob teulu, yn y pen draw, yn fath o ffuglen? A hyd yn oed os gellir dod o hyd i’r gwir – a allwn ni fyw gydag ef?

***

Ganwyd a magwyd Joe Dunthorne yn Abertawe. Ef yw awdur tair nofel ac un casgliad o farddoniaeth, gan gynnwys Submarine (Hamish Hamilton 2018), sydd wedi’i gyfieithu i bymtheg o ieithoedd ac a gafodd ei haddasu’n ffilm glodwiw a gyfarwyddwyd gan Richard Ayoade, a Wild Abandon (Hamish Hamilton, 2011), a enillodd Wobr Encore 2012. Children of Radium: A Buried Inheritance  yw ei waith ffeithiol cyntaf. Mae’n byw yn Llundain.

Gwobr Plant a Phobl Ifanc - Noddir gan Darwin Gray

My Dog, Olivia Wakeford (Harper Collins Children’s Books/ Harper Fire)

Mae Rhys, deg oed, wrth ei fodd gyda chŵn. Pan ddaw ar draws Labrador du ar goll gyda llygaid mawr fel concyrs a chlustiau meddal fel melfed, prin y gall gredu ei lwc. Nid oes neb yn dod ymlaen i hawlio Worthington, gan roi’r cyfle perffaith i Rhys brofi ei fod yn berchennog da.

Ond pan fydd Rhys yn symud i Lundain i fyw gyda’i dad dieithr sy’n casáu cŵn, mae’n penderfynu cadw Worthington yn gyfrinach.

Wrth frwydro i gysylltu â’i dad mewn dinas newydd, mae Rhys yn cael cysur gan Worthington. Ond mae’n sylweddoli’n fuan nad yw gofalu am gi cudd yn hawdd o gwbl, ac mae’n gwybod y bydd yn rhaid iddo wynebu ei ofnau cyn hir a dod o hyd i ffordd o ddweud wrth Dad…

Yn hynod deimladwy ac wedi’i ysgrifennu’n hyfryd, mae My Dog yn dangos i ni nad yw derbyn y presennol yn golygu anghofio’r gorffennol—mewn stori a fydd yn aros gyda chi am byth.

***

Mae Olivia Wakeford yn ysgrifennu llawer am alar—sy’n golygu ei bod hi’n ysgrifennu am gariad mewn gwirionedd. A chŵn: mae’n credu y dylai pob stori gynnwys ci! Mae Olivia wedi gweithio ym maes ffilm a theledu, wedi bod yn sgriptwraig, yn gerddwr cŵn, yn gynorthwyydd personol ac yn fwy, ond ei hoff waith yw ysgrifennu nofelau i blant. Graddiodd gyda rhagoriaeth o’r MA mewn Ysgrifennu i Blant ym Mhrifysgol Bath Spa, gall reidio beic un olwyn (yn wael), ac mae’n gaeth i greision halen a finegr. Ganwyd hi yng Nghymru ac mae bellach yn byw yn Llundain gyda’i gŵr a’u ci Labrador Obi, sydd ychydig yn swil. My Dog yw ei nofel gyntaf.

Gwobr People’s Choice Nation.cymru

There She Goes, My Beautiful World, Gosia Buzzanca (Calon Books)

Beth yw ystyr ‘cartref’? Ai’r man rydych yn dod ohono, neu rywbeth y mae’n rhaid i chi ei greu i chieich hun, gan adeiladu bric wrth fric ar weddillion a thrysorau popeth a fu o’ch blaen? Yn y cofiant grymus hwn, mae Gosia Buzzanca yn adrodd hanes menyw ifanc sy’n gadael Gwlad Pwyl yn ddeunaw oed i chwilio am fywyd ehangach, gan obeithio gadael trawma ei harddegau ar ei hôl. Ar ôl astudio yn Lloegr, mae’n dod o hyd i we newydd gyfoethog o brofiadau yng Nghymru, gyda llinynnau sy’n cydblethu o gariad a llenyddiaeth, gobaith ac anobaith. Daw mamolaeth â llawenydd newydd, ond rhaid wynebu poen y gorffennol cyn y gall y bywyd newydd hwn ar lan y môr deimlo’n wirioneddol fel cartref. Gyda gonestrwydd di-ofn bardd, mae Gosia yn cynnig ei hanes o fywyd cyffredin anghyffredin lle caiff pob blas ei brofi a phob eiliad ei byw i’r eithaf. Bydd y stori hon o chwilio gydol oes am gartref yn apelio at unrhyw un sydd erioed wedi teimlo ar goll neu’n anghyflawn, ac sy’n hiraethu am le i  berthyn.

***

Ganwyd Gosia Buzzanca ym Mhoznań, Gwlad Pwyl. Dechreuodd gyhoeddi straeon byrion yn 2002, cyn symud i’r DU yn 2008. Enillodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol gyda rhagoriaeth, ac roedd yn dderbynnydd Gwobr Awduron Dosbarth Gweithiol W&A yn 2022. There She Goes, My Beautiful World yw ei chyfrol gyntaf. Mae bellach yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu yn Y Bari.

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026