Dewislen
English
Cysylltwch

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026

I ddarllen rhagor am yr holl gyfrolau a’u hawduron, cliciwch ar ein llyfryn arlein isod.

Y Wobr Farddoniaeth (Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd)

'Trochi - Cerddi Carwyn Eckley', Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)

Cyfrol gyntaf Prifardd y Gadair ym Mhontypridd. Dawn y bardd ar ei orau yn y mesurau caeth a rhydd.

***

Mae Carwyn Eckley yn 30 oed ac yn hanu o Benygroes, Dyffryn Nantlle. Mae’n byw yng Nghaerdydd efo’i bartner Siân a’u ci, Bleddyn, ac yn gweithio fel newyddiadurwr gydag Adran Gymraeg ITV Cymru, sy’n cynhyrchu rhaglenni Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le. Mi daniwyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth pan roddodd ei fam gopi o stori Harry Potter yn ei law fel bachgen ifanc iawn, cyn dechrau ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg dan arweiniad Ms Eleri Owen yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Astudiodd Gymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a dysgu i gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury. Enillodd y Gadair Ryng-golegeol yn ystod ei drydedd flwyddyn yno, cyn ennill Cadair yr Urdd yn 2020-21. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon efo Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur, sydd wedi ennill y gyfres bum gwaith. Tu hwnt i ysgrifennu, pêl-droed yw un o’i brif ddiddordebau – mae’n aelod o Glwb Cymric ac yn dilyn y tîm cenedlaethol yng Nghaerdydd ac oddi cartref gyda hogia Dyffryn Nantlle.

'Chwarter Eiliad', Jo Heyde (Cyhoeddiadau Barddas)

Greddf sydd wrth wraidd y gyfrol synhwyrus hon. Dyma gasgliad o gerddi sydd wedi eu hysgogi gan y chwarter eiliad pan fo rhywbeth yn cydio ac yn ysbrydoli cerdd. Ceir yma gerddi am atgofion, am fyd natur ac am berthyn. Maent yn cwmpasu bywyd y bardd, Jo Heyde, o’i phlentyndod cynnar hyd heddiw, ac mae’r holl liwiau, gweadau a blasau yn goferu gyda cherddoriaeth y gynghanedd a’r Gymraeg.

***

Yn wreiddiol o Lundain, gwnaeth Jo Heyde hyfforddi fel pianydd gan fynychu’r Academi Frenhinol yn ifanc, cyn graddio mewn cerddoriaeth o King’s College, Llundain. Dechreuodd ddysgu Cymraeg tua diwedd 2018, ac ers 2021, mae hi wedi bod wrthi’n barddoni.

Roedd yn Fardd y Mis, BBC Radio Cymru ym mis Gorffennaf 2024. Mae wedi cyhoeddi pamffled, Cân y Croesi (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2024), a chyfrol, Chwarter Eiliad (Cyhoeddiadau Barddas 2025), a hi yw golygydd gwadd y flodeugerdd, Trysorau’r Nadolig (Cyhoeddiadau Barddas 2025).

Mae’n aelod o dîm Talwrn y Derwyddon, ac Ysgol Farddol Caerfyrddin, yn ogystal â bod yn gydlynydd Bardd y Mis. Mae ei cherddi wedi’u cyhoeddi yng nghylchgrawn Barddas, yn Ffosfforws 2-6 (Cyhoeddiadau’r Stamp) , MODRON 4, a’r flodeugerdd, O Ffrwyth y Gangen Hon (Cyhoeddiadau Barddas). Mae wedi ennill sawl cadair, a gwnaeth ei hawdl, ‘Dinas’, gyrraedd y dosbarth cyntaf, a theilyngdod, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

'Mae', Mererid Hopwood (Cyhoeddiadau Barddas)

Dyma ail gyfrol o gerddi gan y Prifardd Mererid Hopwood. Yn y casgliad hwn cawn flas ar ddeng mlynedd o ganu caeth a rhydd ers cyhoeddi Nes Draw (Gomer, 2015). Rhwng y cloriau mae cerddi am heddwch, anghyfiawnder, yr amgylchfyd, bod yn fam ac yn fam-gu – a llawer mwy. Mae’r cyfan yn troi ar echel y gerdd Newid y Drefn sy’n cloi gyda’r geiriau cofiadwy ‘a threch nag anobaith troi dy gefn, yw gwybod dy galon: rhaid newid y drefn’.

***

Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, 2001, ac yn ogystal mae hefyd wedi ennill y Goron a’r Fedal Ryddiaith. Mae hi wedi cyhoeddi nifer lawer o gyfrolau i oedolion a phlant ac wedi cael ei gwobrwyo am ei hymroddiad a’i thalentau. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Nes Draw, gyda Gomer yn 2015 a enillodd Categori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn y flwyddyn ganlynol yn 2016.

Mae (Cyhoeddiadau Barddas, 2025) yw ei hail gyfrol o farddoniaeth. Mererid yw Archdderwydd Gorsedd y Beirdd 2024-2027 ac mae hi hefyd yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gwobr Ffeithiol Greadigol (Noddir gan Stori Cymru)

'Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau ‘Atgof’ Prosser Rhys', Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)

Ychydig dros ganrif ers i Prosser Rhys ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924, dyma ddilyn llwybrau ei bryddest enwog, ‘Atgof’. Ar daith rhwng Ceredigion a Chaernarfon codir pob math o ystyriaethau nid yn unig am lenyddiaeth LHDTC+, rhagfarn a sensoriaeth, ond hefyd am wreiddiau, magwraeth, bro, mudo, salwch a’r profiad o fod yn Gymro ifanc a chanddo rywbeth y mae’n ysu i’w ddweud.

***

Magwyd Iestyn Tyne yn Llŷn ac mae bellach yn byw yn Arfon gyda’i deulu. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o farddoniaeth a nofel i oedolion ifanc, ac roedd yn un o olygyddion Welsh (Plural) (Repeater Books, 2022), y gyfrol o ysgrifau ar ddyfodol Cymru. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion gwasg annibynnol Cyhoeddiadau’r Stamp ac yn un o Gymrodorion Cymru’r Dyfodol 2023-25. Yn 2024 fe’i penodwyd yn Fardd y Dre cyntaf Caernarfon.

'Ynysoedd Gobaith – Mentrau a Syniadau Iwtopaidd yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif', Llion Wigley (Gwasg Prifysgol Cymru)

‘Ynysoedd Gobaith’ oedd diffiniad yr heddychwr mawr George M. Ll. Davies o’r mentrau a chymunedau iwtopaidd amrywiol y bu’n rhan ohonynt yng Nghymru’r ugeinfed ganrif. Bwriad y gyfrol hon, y gyntaf yn y Gymraeg ym maes astudiaethau iwtopaidd, yw amlygu a dadansoddi pwysigrwydd mentrau o’r fath, o’r mudiad gardd bentrefi yn y 1910au, i arbrofion cymdeithasol y Crynwyr yng nghymoedd de Cymru rhwng y rhyfeloedd byd, a chomiwnau’r hipis yn y 1970au. Canolbwyntir ar bedair brif thema – tai a chynllunio trefol; gwaith, hamdden a diweithdra; cyfiawnder troseddol a charchardai; heddwch a didreisedd – wrth ymdrin â’r mentrau hyn, er mwyn tanlinellu eu perthnasedd cyfoes fel ffynhonnell nid yn unig o obaith ond hefyd o syniadau a dulliau ymarferol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac ecolegol ein hoes.

***

Mae Llion Wigley yn hanesydd ac awdur. Cyhoeddwyd ei gyfrol ar hanes syniadau seicdreiddiol a dirfodol yng Nghymru, Yr Anymwybod Cymreig (Gwasg Prifysgol Cymru), yn 2019, a’i hanes o ddegawdau cynnar Gwasg Prifysgol Cymru yn 2022. 

'Lobsgows – Cariad y Cymry at Fwyd', Ruth Richards (Gwasg Carreg Gwalch)

Cenedl heb Lobsgows. Cenedl heb galon

Rydyn ni’r Cymry yn hoff o’n bwyd, ond be ydi bwyd Cymreig? Bara lawr a chocos, te bach yn nhŷ Nain, neu fagiad o tsips ar lan y môr?

Mae’r ysgrifau hyn yn dwyn i gof atgofion o fwyd a bwyta, o datws pum munud i gyrris Vesta, yn rhyfeddu at gynnwys gwych a gwallgof rhai o’r llyfrau coginio Cymraeg cynharaf, ac yn dathlu’r berthynas glòs sydd gennym ni â’r hyn sy’n tyfu yn ein milltir sgwâr.

***

Daw Ruth Richards o Fôn. Bu’n astudio Hanes Celf ym Mhrifysgol Sussex, a blynyddoedd lawer yn ddiweddarach, cwblhaodd gwrs M.A. Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n awdur nofelau (Pantywennol a Siani Flewog (cyhoeddwyd y ddwy gan Y Lolfa, 2018), cyfrol o straeon byrion (Pobol i’w Hosgoi, Gwasg y Bwthyn, 2020) a chyfrol ffeithiol am y ffotograffydd John Thomas (Golwg Ehangach, Gwasg Prifysgol Cymru, 2024), sy’n ffrwyth ymchwil ei Doethuriaeth.

Mae Ruth Richards yn awdur sy’n ymddiddori yn hanes a diwylliant yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn y gyfrol hwyliog hon, a thrwy gyfrwng atgofion a hen lyfrau coginio, mae’n troi ei sylw at berthynas Cymry’r cyfnod â’r bwyd oedd ar gael iddynt.

Gwobr Ffuglen (Noddir gan Cyfrifwyr HSJ)

'Hiraeth Neifion', Simon Chandler (Gwasg Carreg Gwalch)

Nofel hanesyddol am Gymro oddi cartref; am gariad, cenfigen, jazz, brad a brwydr dragwyddol y celfyddydau i oroesi.

Roedd gan Willi Grünbaum freuddwyd: creu band jazz gyda cherddorion disglair, arloesol, ac erbyn 1929 mae’r Asphalt Hustlers yn chwarae eu math unigryw o jazz poeth yng nghlybiau Berlin. Ond erbyn 1933 mae’r ddinas dan reolaeth y Natsïaid, a’r band – sy’n gyfuniad o gerddorion Du a gwyn, Americanaidd ac Ewropeaidd – yn dân ar groen un o swyddogion ifanc yr SS.

Pianydd yr Asphalt Hustlers yw Ifan Williams, sydd wedi syrthio mewn cariad â chantores y band yn ogystal â’r gerddoriaeth gyffrous. A fydd cysgod hir yr Ail Ryfel Byd yn llwyddo i chwalu eu dyfodol disglair?

***

Mae Simon Chandler yn hanu o Lundain, ond syrthiodd mewn cariad â Chymru, y Gymraeg a’r gynghanedd ar ôl iddo ymweld â cheudyllau Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog. Bellach, mae’n golofnydd yng nghylchgrawn Barddas ac mae ganddo englynion mewn dwy flodeugerdd ddwyieithog. Mae’n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd, ac yn rhedeg Clwb Darllen Ar-lein Manceinion yn ei ddinas fabwysiedig. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn (Gwasg Carreg Gwalch), yn 2023. Hon yw ei ail nofel.

'Tri', Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)

Cafodd Ronan Evans ddeunaw mlynedd o jêl. Bai ar gam. Medda fo. Rŵan, mae o allan, ac mae tri dyn wedi marw o fewn tridiau. Dialedd? ‘Ta cyd-ddigwyddiad sinistr? A be ydi arwyddocâd y rhif 3? Dyma rai o’r cwestiynau mae’n rhaid i Kiely ac O’Shea eu hateb, tra’n dal i drio gwneud synnwyr o’u teimladau cymhleth tuag at ei gilydd.

***

Sonia Edwards yw un o’n hawduron mwyaf profiadol a chynhyrchiol. Daw’n wreiddiol o Gemaes, Ynys Môn. Yn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 1996 a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999 a 2017, mae’n awdur sawl cyfrol o ryddiaith i blant, pobl ifanc ac oedolion.

'Dau', Bethan Nantcyll (Gwasg y Bwthyn)

Mae Dau yn nofel dawel, gynnil ac iddi ddyfnder profiad ac emosiwn. Stori am gynefin a pherthyn, am gyfrinachau a ffyddlondeb, am ofnau ac amheuon, ond goruwch popeth, am ofal a chariad. Stori’r ddau efaill Wiliam a Gwen, y ddau olaf o ‘ddwsin dedwydd’ fferm y Nant. Trwy eu llygaid nhw profwn y newid a welir ar yr aelwyd ac o fewn cymuned wledig sefydledig dros gyfnod o flynyddoedd.

***

Dyma nofel gyntaf Bethan Nantcyll, a fagwyd ar fferm Nantcyll Ganol ym Mhantglas, Eifionydd. Yno y magodd ddwy o genod ac yno, meddai hi, y bydd hi bellach. Bu’n gweithio mewn swyddfa treth incwm ac fel cymhorthydd ysgol gynradd cyn mynd yn fyfyriwr aeddfed i Adran Gymraeg Prifysgol Bangor lle’r enillodd BA, MA a PhD. Erbyn hyn mae’n gweithio fel Cydlynydd Prosiect Ymbweru Bro gyda Chwmni Golwg. Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005 enillodd Wobr Goffa Llwyd o’r Bryn, y brif wobr i unigolion am lefaru.

Gwobr Plant a Phobl Ifanc (Cefnogir gan Cronfa Elw Park-Jones)

'Anfarwol', Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae chwech disgybl cwrs trochi Ysgol Uwchradd Glan y Gors yn mynd ar drip ysgol i wersyll Coed Daniel, ond nhw ydi’r unig ddosbarth sy’n llwyddo i gyrraedd pen y daith. Mae’r criw yn sownd yn y gwersyll, mae’r goedwig gyfagos yn llawn bwystfilod, ac mae eu hathrawes yn sâl. A fedran nhw weithio gyda’i gilydd er mwyn achub ei bywyd hi a ffoi rhag y gelyn anfarwol? 

***

Magwyd Rebecca Roberts ger y môr ym Mhrestatyn, ac mae hi’n dal i fyw yn Nyffryn Clwyd gyda’i gŵr, dau o blant, a’u ci, Dexter.

Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog y Gymraeg, cyfieithydd a thiwtor ysgrifennu creadigol.

Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a gafodd ei chyhoeddi yn Hydref 2020 gan Wasg Carreg Gwalch. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu.

Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019 (Gwasg Carreg Gwalch), a chafodd nofel Saesneg, Eat. Sleep. Rage. Repeat., ei chyhoeddi gan Gomer yn 2020. Cyhoeddwyd Chwerwfelys (2021), Curiad Gwag (2022) gan Wasg Carreg Gwalch,  a Defodau (2022, Honno), Mwy o Helynt (Gwasg Carreg Gwalch, 2023).

Enillodd #Helynt Wobr Tir na n-Og 2021 a chategori Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2021, ac mae bellach yn llyfr gosod TGAU. Cyfieithwyd y gyfrol i’r Saesneg dan y teitl #trouble. Yn 2024 bu’n brysur yn cyfieithu dwy o’i nofelau eraill i’r Saesneg, sef Rock on the Road a The Rituals (gwasg Honno). Mae trafodaeth ar y gweill gyda Chyfnewidfa Llên Cymru i gyfieithu #Helynt a Mwy o Helynt i’r Bwlgareg.

'Y Cae Ras', Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Nofel am deulu, am gariad, am bêl-droed – ac am gefnogi tîm Wrecsam i’r carn. Mae Danny yn ddeuddeg oed ac mae ei fywyd yn gymhleth. Mae Mam wedi cael cariad newydd sydd ddim at ddant Mali, ei efaill, a daw hyn â newid byd i’r teulu bach sy’n byw yng nghysgod y Cae Ras.

***

Mae Manon Steffan Ros yn ddramodydd ac yn awdur llawn amser. Mae wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau, ac wedi ennill Gwobr Tir na n-Og bedair gwaith (Trwy’r Tonnau yn 2010; Prism yn 2021, Pluen yn 2017 a Fi a Joe Allen yn 2019, oll wedi eu cyhoeddi gan Y Lolfa). Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2018 gyda’i nofel boblogaidd Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa, 2020) sydd bellach wedi gwerthu miloedd o gopïau ac wedi’i chyfieithu i sawl iaith. Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Nhywyn.

'Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael Ei Ddarllen', Siôn Tomos Owen (Atebol)

Mae hon yn stori am fachgen sydd ddim yn hoffi darllen o gwbl. Ar wyliau mae’n mynd mewn i siop ddiddorol. Does dim llyfrau yn y siop oni bai am hen un mawr mewn cas gwydr. Mae Gerwyn yn agor y llyfr ar y slei ac yn sydyn yn cael ei lyncu i mewn iddo. Mae’n deffro mewn gwlad anghyfarwydd ac yn cael bob math o anturiaethau.

***

Mae Siôn Tomos Owen yn awdur, bardd, artist a chyflwynwr dwyieithog o Dreorci, Rhondda Fawr. Am y ddwy flynedd nesaf fe yw Bardd Plant Cymru 2025-2027. Cyrhaeddodd ei gasgliad gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy’n Digwydd (Barddas, 2024) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025 a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf i blant, Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen (Atebol, 2025) yn Haf 2025. Mae wedi sgwennu a darlunio nifer o lyfrau i blant a dysgwyr Cymraeg ac mae ei farddoniaeth a’i straeon ar gwricwlwm newydd TGAU Cymraeg a Chymraeg ail-iaith.  Mae’n gweithio’n llawrydd yn greadigol gan ddarlunio, paentio murluniau a chynnal gweithdai creadigol trwy ei gwmni CreaSiôn.

Rhestr Fer Saesneg 2026

Rhestr Fer Saesneg 2026

Gwobr Farddoniaeth – cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd 
Hôtel Amour, Deryn Rees-Jones (Seren Books) 
The Storm’s Flora, Laura Wainwright (Seren Books) 
Fourth& WalnutJeremy Over (Carcanet Press) 
 
Gwobr Ffuglen  – Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies 
Pulse, Cynan Jones (Granta Publications) 
Cold Grace, Meredith Miller (Honno Press) 
Room Above A Shop, Anthony Shapland (Granta Publications
 
Gwobr Ffeithiol Greadigol  
One Woman Walks Europe, Ursula Martin (Honno Press) 
Children of Radium: A Buried Inheritance, Joe Dunthorne (Hamish Hamilton
There She Goes, My Beautiful World, Gosia Buzzanca (Calon) 
 
Gwobr Plant a Phobl Ifanc – noddir gan Darwin Gray 
Vanishing Edge, Zillah Bethell (Firefly Press) 
My Dog, Olivia Wakeford (Harper Collins Children’s Books/ Harper Fire) 
The Wicked Lies of Habren Faire, Anna Fiteni (Electric Monkey, HarperCollins

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026