Galw Awduron Ifanc Cymru! Gwnewch gais ar gyfer Sgwad ’Sgwennu Genedlaethol 2026–2027.
Dyddiad cau: 5.00pm Dydd Llun 15 Rhagfyr 2025
I bobl ifanc 16–18 oed ledled Cymru. Oes gennych chi stori i’w hadrodd? Llais sy’n haeddu cael ei glywed? Gall eich taith fel awdur ddechrau yma.
Mae’r Sgwad ’Sgwennu Genedlaethol yn gyfle unigryw i 14 awdur ifanc ddatblygu eu crefft, dod i gyswllt â mentoriaid proffesiynol, a bod yn rhan o gymuned greadigol fywiog.
Beth gewch chi?
Fel aelod o’r Sgwad, byddwch yn:
- Gweithio’n agos gydag awduron cyhoeddedig a mentoriaid creadigol.
- Cymryd rhan mewn gweithdai, preswylfeydd ac achlysuron unigryw.
- Rhannu eich gwaith gyda chyfoedion ac ymarferwyr creadigol.
- Magu hyder a datblygu eich llais ysgrifennu unigryw.
Pwy all wneud cais?
Pobl ifanc 16–18 oed sy’n byw yng Nghymru, yn ysgrifennu yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog. Does dim angen profiad ffurfiol nac gramadeg a sillafu perffaith dim ond creadigrwydd, brwdfrydedd, a’r ymrwymiad i greu straeon.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan leisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac unigolion sydd yn anaml yn gweld pobl fel nhw eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y llyfrau maen nhw’n eu darllen.
Sut i wneud cais
Anfonwch hyd at 1000 o eiriau o’ch ysgrifennu neu 10 cerdd, a hyd at 200 o eiriau yn esbonio pam hoffech chi ymuno. Mae’n gyflym, yn syml, a gall fod yn gam cyntaf at rywbeth arbennig.
Sylwch fod lleoedd yn gyfyngedig; rhaglen gystadleuol yw hon sydd wedi’i chynllunio i gefnogi awduron ifanc mwyaf addawol Cymru.
Lledaenwch y neges!
Ysgolion, clybiau ieuenctid, llyfrgelloedd, elusennau – rhannwch y cyfle hwn gyda’ch awduron ifanc. Mae posteri a thaflenni ar gael ar gais.
Cefnogir y rhaglen hon gan Raglen CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.
