Sgwennu’n Well
Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen ddatblygu 15 mis ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Nod Llenyddiaeth Cymru wrth redeg y rhaglen yw cynnig y cyfle i awduron ddatblygu a ehangu’r sgiliau ar wybodaeth sydd eu hangen arnynt i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant.
Mae’r rhaglen mewn dwy ran, ac yn cael ei gynnig yn flynyddol. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys a mentora, a bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr.
Cafodd y rhaglen ei chynnal am y tro cyntaf yn 2023-2024 gyda chwe hwylusydd yn cymryd rhan. Bydd y garfan nesaf yn dechrau ar eu daith ddatblygiadol ym mis Ebrill 2025.