Dewislen
English
Cysylltwch

Speak Back: Cymhwysedd a chwestiynau cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys i wneud cais am y cyfle hwn?

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru.  

Mae’n rhaid i chi allu ymrwymo’n llawn i fynychu’r cwrs cyfan yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o 5.00pm ddydd Llun 3 Mawrth – 10.00am ddydd Gwener 7 Mawrth 2025. 

Ar gyfer y cwrs hwn, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd heb gynrychiolaeth deg yn ein cymdeithas ac o fewn y byd cyhoeddi a pherfformio barddoniaeth yng Nghymru. Gellir defnyddio’r rhestr ganlynol fel canllaw, er y byddwn yn eich gwahodd i egluro yn eich geiriau eich hun pam eich bod yn gwneud cais am y cyfle hwn: 

  • Perthyn i gymunedau Sipsiwn, Roma a/neu Deithwyr   
  • O gefndir incwm iselMae ein meini prawf ar gyfer cefndir incwm isel yn cynnwys unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau (gan gynnwys lwfansau anabledd) pan oedd yr ymgeiswyr yn 14 oed. 
  • Byddar a/neu drwm eu clyw 
  • LHDTC+   
  • Niwroamrywiol- Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, Dyspracsia, Syndrom Tourette ac OCD 
  • Pobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig  
  • Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches 
  • Unigolion sy’n byw gydag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor, h.y. wedi parhau neu y disgwylir i barhau am o leiaf 12 mis ac yn cael effaith andwyol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.   
Ym mha iaith y bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg. Fodd bynnag, rydym yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg i ymuno, gan y bydd y sgiliau a’r grefft y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs yn berthnasol i’ch ffurf gelfyddydol ym mha bynnag ieithoedd rydych chi’n eu hymarfer

A oes angen profiad arnaf i ymgeisio? Neu ydw i'n rhy brofiadol?

Rydym yn chwilio’n bennaf am artistiaid llafar sy’n dod i’r amlwg ac yng nghanol eu gyrfa sydd â photensial  

Os nad ydych yn siŵr ai dyma’r cwrs cywir i chi, cysylltwch â ni i drafod.  

A oes cost ar gyfer y cwrs hwn?

Na. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau yn Nhŷ Newydd angen ffi i’w mynychu, ond cynigir rhywfaint o’n gweithgarwch mwy strategol yn rhad ac am ddim i unigolion drwy broses ymgeisio gystadleuol. Darperir llety ac arlwyo drwy gydol yr wythnos. Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried costau teithio i’r ganolfan ac oddi yno. Os yw hyn yn mynd i fod yn rhwystr i fynychu, byddwn yn eich gwahodd i gysylltu â ni i drafod cyn i’r cwrs ddechrau 

A allwch roi mwy o wybodaeth ymarferol i mi am y Ganolfan a'm hymweliad?

Wedi’i leoli yng Ngwynedd, mae Tŷ Newydd wedi’i leoli rhwng y môr a’r mynyddoedd – llai na deng munud mewn car o Barc Cenedlaethol Eryri a Phen Llŷn sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol swyddogol. Gallwch ddysgu mwy am Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd, ar ein gwefan. Yma gallwch bori trwy luniau a blogiau a ysgrifennwyd gan gyfranogwyr blaenorol. 

Ar gyfer y cwrs hwn, gwahoddir yr awduron i gyrraedd rhwng 2.00 pm a 5.00 pm ddydd Llun 3 Mawrth 2025, a bydd y cwrs yn dod i ben ar ôl brecwast, tua 10.00am, ddydd Gwener 7 Mawrth. Edrychwch ar ein gwefan am wybodaeth teithio. Gallwn helpu gyda theithio o orsafoedd trenau (Cricieth neu Fangor) – a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth am deithio’n agosach at yr amser. 

Bydd yr ysgrifenwyr yn cael ystafell wely yr un. Mae rhai ystafelloedd gwely yn ensuites, ac mae gan eraill ystafelloedd ymolchi a rennir. Bydd ystafelloedd gwely yn cael eu dyrannu ar hap, ac eithrio ystafelloedd gwely hygyrch. 

Bydd yr holl brydau bwyd yn cael eu darparu i chi gan ein cogydd preswyl, gan gynnwys brecwast hunan-wasanaeth, cinio bwffe, pryd nos gyda phwdin, a byrbrydau cartref. Gallwn ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o ofynion dietegol ac alergeddau bwyd. 

Gobeithiwn y cewch ddigon o amser rhydd i fwynhau’r ardal a’r ganolfan ysgrifennu. Ond gofynnwn yn garedig i chi fynychu’r holl weithgareddau a drefnir fel rhan o’r cwrs. Bydd amserlen fanwl yn cael ei darparu. 

Beth fydd yn digwydd yn ystod y cwrs ei hun?

Bydd amserlen fanwl o weithgaredd yn cael ei rhannu gyda chi cyn i’r cwrs ddechrau. Bydd yr wythnos yn cynnwys: 

  • Gweithdai grŵp
  • Trafodaethau grŵp
  • Perfformiadau gan diwtoriaid a beirdd gwadd
  • Sgyrsiau gan arbenigwyr y diwydiant
  • sgyrsiau un-i-un gyda’r tiwtoriaid
  • amser rhydd i rwydweithio, cymdeithasu a mwynhau’r ardal leol
  • a digwyddiad dathlu olaf yn cynnwys perfformiadau gennych chi, y garfan, o waith a ddatblygwyd yn ystod yr wythnos
A fydd yn rhaid i mi ddarllen neu berfformio trwy weithio'n uchel?

Bydd. Bydd hyn yn elfen allweddol o’r cwrs hwngan ganolbwyntio ar lafar a pherfformiad. Fodd bynnag, bydd y tiwtoriaid a’r staff yn gweithio’n galed i greu lle sy’n teimlo’n ddiogel, yn galonogol ac yn gefnogol i annog eich datblygiad a’ch hyder. 

Mae gennyf anabledd neu gyflwr iechyd a allai ei gwneud yn anodd i mi gymryd rhan, allwch chi helpu?

Rydyn ni yma i helpu. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion cyn a thrwy gydol y rhaglen. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae Cronfa Fynediad ar gael i alluogi cyfranogiad llawn mewn digwyddiadau i awduron ag anableddau neu salwch a allai fod â gofynion mynediad ychwanegol.  

I gael gwybodaeth am hygyrchedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ewch i wefan Tŷ Newydd. 

Pryd byddaf yn clywed a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad erbyn canol mis Ionawr 2025. 

Oes byddaf yn aflwyddiannus, a fyddaf yn cael adborth?

Gan ein bod yn disgwyl nifer uchel o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu darparu adborth manwl ar gyfer pob ymgeisydd. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i ddarparu adborth byr, personol i bob ymgeisydd a lle bo’n berthnasol, rhoi cyngor ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid.  

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch lles. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.  

Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r cwrs ddod i ben?

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn natblygiad yr awduron a’r perfformwyr ar ôl i’r cwrs ddod i ben.  Bydd staff yn parhau i gysylltu â’r grŵp, ac yn rhannu cyfleoedd pan fyddant yn codi. 

Nôl i Speak Back