Dewislen
English
Cysylltwch

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais hon ar SurveyMonkey.

Bydd ein ffurflen gais yn gofyn cwestiynau i chi am:

  • Eich cymhwyster
  • Eich profiad yn y sîn perfformio barddoniaeth/y gair llafar
  • Eich diddordeb yn themâu’r argyfwng hinsawdd a chyfiawnder hinsawdd, hunaniaeth a chyfiawnder cymdeithasol.
  • Sut y byddai’r cwrs hwn yn eich helpu ar y pwynt hwn o’ch gyrfa.

Byddwn yn eich gwahodd i uwchlwytho sampl fer (hyd at 3 cherdd, neu berfformiad fideo o hyd at ddau funud) o’ch gwaith. Os ydych chi’n cyflwyno perfformiad fideo, anfonwch ddolen WeTransfer i post@llenyddiaethcymru.org. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais hefyd.

I’ch helpu i baratoi eich cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais i ddarllen y cwestiynau ymlaen llaw. Mae Fersiwn Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras hefyd ar gael. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na’r ffurflen gais ar SurveyMonkey, anfonwch eich ffurflen i post@llenyddiaethcymru.org ynghyd â’ch enghraifft o waith creadigol a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wedi’i chwblhau.

Fel arall, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd)

Nôl i Speak Back