I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein. Byddwch yn gallu cadw a golygu eich ymatebion ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod ymgeisio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio’r porth, cysylltwch â ni. Bydd aelod o’r tîm yn hapus i helpu.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn am eich manylion personol, gwybodaeth am eich profiad ysgrifennu hyd yma, a chwestiynau a fydd yn ein helpu i asesu sut y byddai cymryd rhan yn Tanio yn cefnogi eich datblygiad fel awdur.
Byddwn hefyd yn gofyn i chi uwchlwytho sampl o hyd at 1,000 o eiriau o waith rhyddiaith creadigol heb ei gyhoeddi. Nid oes rhaid i’r sampl fod wedi’i hysgrifennu ar gyfer plant yn benodol, ond dylai ddangos eich potensial fel awdur a’ch diddordeb mewn datblygu gwaith ar gyfer darllenwyr 8-12 oed.
Am ragor o wybodaeth am gymhwysedd a’r broses ymgeisio, cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin.
Mae fersiynau Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras o’r ffurflen gais a’r cwestiynau cyffredin ar gael. Os byddai’n well gennych gyflwyno cais gan ddefnyddio un o’r fersiynau hyn yn hytrach na’r ffurflen ar-lein, anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau ynghyd â’ch sampl ysgrifennu at post@llenyddiaethcymru.org.
Cefnogaeth i Ymgeiswyr
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses ymgeisio yn hygyrch, yn deg ac yn groesawgar.
Os hoffech drafod y rhaglen neu’r broses ymgeisio cyn gwneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd). Byddwn yn hapus i drafod a yw Tanio yn gyfle addas i chi ar y cam hwn o’ch taith ysgrifennu, yn ogystal ag unrhyw ofynion mynediad neu gymorth ychwanegol y gallech fod eu hangen.
Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol os yw hynny’n fwy cyfleus.