Dewislen
Eng
Cysylltwch

Tanio: Tiwtoriaid

Manon Steffan Ros
Mwy
Megan Angharad Hunter
Mwy
Manon Steffan Ros

Mae Manon Steffan Ros yn un o awduron cyfoes mwyaf nodedig Cymru, ac mae’n adnabyddus am ei gwaith ffuglen, drama a llenyddiaeth plant sydd wedi ennill gwobrau. Gan ysgrifennu yn bennaf yn y Gymraeg, mae hi wedi cyhoeddi mwy nag ugain o lyfrau i blant a phobl ifanc, yn ogystal â nifer o nofelau i oedolion sydd wedi cael eu canmol yn fawr. Mae Manon wedi ennill nifer o anrhydeddau llenyddol pwysig, gan gynnwys Medal Ddrama a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Tir na n-Og, gwobr Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru, ac yn 2023, y Fedal Yoto Carnegie fawreddog am The Blue Book of Nebo (Firefly Press, 2022) – ei chyfieithiad Saesneg ei hun o’r nofel Gymraeg boblogaidd Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa, 2019). Gwnaeth y wobr hanes llenyddol fel y nofel gyntaf mewn cyfieithiad i ennill Medal Carnegie.

Cau
Megan Angharad Hunter

Mae Megan Angharad Hunter yn awdur, sgriptiwr a golygydd o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn ystod ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ac Athroniaeth yn y brifysgol, enillodd ei nofel gyntaf, tu ôl i'r awyr (Y Lolfa, 2020), wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021. Yn 2026, cyhoeddwyd addasiad Saesneg o'r nofel o'r enw behind the sky gan wasg Firefly. Mae hi hefyd wedi ennill gwobr Tir na n-Og, gwobr Iris am ffilm fer, ac yn 2026 cyrhaeddodd restrau byrion y British Book Awards a'r YA Book Prize am brosiectau cydweithiol. Megan ydi Swyddog Llenyddiaeth elusen Celfyddydau Anabledd Cymru.

Cau