Ysgrifennu Ffuglen
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan awduron ffuglen sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer preswyliad 5 niwrnod rhad ac am ddim yn Nhŷ Newydd. Nod y preswyliad yw gwella eich sgiliau wrth ddatblygu cymeriadau cyfareddol, plotiau difyr, a bydoedd credadwy. Y tiwtoriaid yw Francesca Reece ac Anthony Shapland.
Dyddiadau’r cwrs: Dydd Llun 24 – Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025.
Dyddiad Cau: 5.00pm, Dydd Mercher 24 Medi 2025.
Caiff Ysgrifennu Ffuglen ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Fenton (The Fenton Arts Trust)
Darllenwch ragor o wybodaeth am y cwrs a manylion sut i wneud cais isod. Mae’r wybodaeth ar gael mewn fformat print bras a dyslecsia gyfeillgar ar y dudalen Lawrlwytho.