Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Angie & Dyfan Roberts

Cyhoeddwyd Llu 2 Meh 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Angie & Dyfan Roberts

Holi’r Awdur: Angie Roberts

Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu?

Bwlchgwyn ger Wrecsam, pentre uchaf Cymru. Mae yno goedwig ar gyfer antur, mynydd ar gyfer picnic, labyrinth o ogofâu ar gyfer archwilio, a llwyn mwyar duon mawr iawn ar gyfer gwneud jam – a staenio bysedd, wyneb a dillad dydd Sul. 

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Pob dim – llyfrau, teledu, ffrindiau, cerddoriaeth, teulu – dwi’n dychmygu pob dim dwi’n ei weld, ei glywed a’i ddarllen yn mynd fewn i grochan enfawr yn fy mrên a does wybod beth fydd yn dod allan.

Beth yw eich hoff lyfr o’ch plentyndod?

Amhosib dewis un llyfr yn unig. Y llyfrau William gan Richmal Crompton oherwydd eu bod yn gwneud i mi chwerthin, The Mouse and his Child gan Russell Hoban oherwydd iddo wneud i mi grio, a Pippi Longstocking gan Astrid Lindgren oherwydd bod Pippi wedi gwneud i mi fod eisiau bod yn wyllt ac anarchaidd. A gwisgo sanau streip. 

Hoff gymeriad o lyfr?

Mae gen i lawer o ffefrynnau, a phob un am resymau hollol wahanol: William wrth gwrs.  William yn anad neb. Plant amddifad Baudelaire o A Series of Unfortunate Events. Yn enwedig y babi. Damian o Millions gan Frank Cottrell Boyce, Clarice Bean gan Lauren Child, Lyra Silvertongue Phillip Pullman, Skellig David Almond, y yn The House with Chicken Legs gan Sophie Anderson – ac, wrth gwrs, Pry Bach Tew Mary Vaughan Jones. 

Pwy ddylai ddarllen eich llyfr a pam?

Plant 8 – 12 oed. A’u rhieni nhw gobeithio! Merched a hogia’!

Allwch chi esbonio mwy am y llyfr os gwelwch yn dda?

Eich hoff le yn y byd a pam?

Ymhlith y dail a’r adar yn haen uchaf ein Tŷ Coed Sycamorwydden. 

Swydd ddelfrydol os ddim yn awdur?

Roeddwn i eisiau bod yn ofodwr unwaith. Neu’n lleian. Dychmygais fod un yn darganfod bydoedd rhyngalaethol, tra’r llall yn dod o hyd i fydoedd mewnol. Felly mi ddes i’n gyfarwyddwr/awdur teledu/radio/ffilm/theatr yn lle hynny. Ac roedd hynny’n golygu y gallwn i greu llwyth o wahanol fydoedd i mi fy hun. 

Top tip i ddarpar awduron?

Darllenwch lawer o lyfrau. Ac yna daliwch ati i ddarllen llawer mwy! 

 

Yng Ngeiriau’r Beirniaid…

 

Geiriau gan eraill…

Darllen Pellach:

Erthygl BBC Cyhoeddi Enillydd Gwobr Cynradd Tir na n-Og – Cyhoeddi enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2025 – BBC Cymru Fyw
Gweithgareddau i blant yn deillio o’r llyfr – Gweithgareddau Gornest Lyfrau.pdf
Prynu’r llyfr – www.gwales.com – Arwana Swtan a’r Sgodyn Od