Dewislen
English
Cysylltwch

Darganfod Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyhoeddwyd Mer 7 Gor 2021 - Gan Aneirin Karadog
Darganfod Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r prosiect diweddaraf y ces i’r fraint o’i arwain yn un go wahanol i’r arfer am sawl rheswm.

Yn gyntaf, fe ges i weithio gydag oedolion yn hytrach na phlant a phobol ifanc.  Rwyf wedi gweithio gyda rhai dysgwyr Cymraeg o oedolion yn y gorffennol, ond mae’r rhan ofwyaf o gyfranogwyr mewn gweithdai rwy’n eu cynnal fel arfer rhwng oedran ysgol feithrin ac arddegau hwyr.  Mae pob profiad yn un gwerthfawr, ond roedd yna rywbeth braf iawn mewn gallu cydweithio gyda phobol oedd naill ai yn yr un genhedlaeth â mi neu yn hŷn.

Cyn mynd yn fy mlaen, dylwn esbonio beth yn union oedd y prosiect o dan sylw.  Ces wahoddiad drwy Lenyddiaeth Cymru i gyfansoddi cerdd sy’n tynnu ar brofiadau staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn sgil y pandemig.  Braf oedd gweld Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio eto fyth gydag un arall o sefydliadau cyhoeddus ein gwlad, fel y ces ei brofi o fod yn rhan o brosiect Plethu/Weave a chael cydweithio gyda’r dawnsiwr gosgeiddig, Joe Powell-Main. (a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru).  Mae’r ysbryd o gydweithio mor bwysig ag erioed o ystyried y pandemig a’r hinsawdd gwleidyddol rhyngwladol lle mae cymaint o raniadau a gwrthdaro i’w gweld dros y pum mlynedd diwethaf.

Cerdd yw hon a fydd yn cael ei defnyddio ar ddiwrnod staff mewnol a gynhelir yn flynyddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.  Ond wrth gwrs, mae’r amgylchiadau bellach yn wahanol ac yn fwy heriol o ran ceisio cynnal diwrnod sydd i fod i ymateb i anghenion lles y staff ac sydd i fod i’w tynnu at ei gilydd.  Er hynny, rwy’n teimlo fy mod i wedi gallu cynnig cyfres o siesiynau i’r staff a fu’n llesol iawn iddyn nhw.  Y bwriad fel arfer wrth gynnal gweithdy yw ei gynllunio fel ei fod yn llawn gweithgareddau hwyliog a chyfleon i ymestyn y cyfranogwyr gan hefyd gynnal deialog greadigol rhyngof fi a’r bobol sy’n bresennol.  Ond gan taw’r bwriad oedd i mi gyfansoddi cerdd ar ddiwedd y gyfres o weithdai, roedd natur y sesiynau hyn yn wahanol.

Roedd hyn yn gyfle i mi wrando yn fwy na dim, a dyna a wnes. Hynny a chymryd tudalennau lu o nodiadau yn sgil y pethau a rannwyd; o arbenigedd a dyletswyddau pob unigolyn, i’r rheswm pam eu bod yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud dros Cyfoeth Naturiol Cymru a’r dyheadau dros gynnal a gwella ecoleg, byd natur a thirlun anhygoel ein gwlad ni.  Yn bwysicach fyth, roedd yn gyfle I’r staff rannu rhai o’u teimladau dyfnaf yn sgil y flwyddyn a hanner a fu, heb deimlo y byddai neb yn eu barnu na chwaith yn adrodd yn ôl i bobol eraill ar yr hyn a rannwyd.

Yr her fawr wedyn oedd distyllu’r hyn a ddysgais gan ryw 25ain o bobol sy’n arbenigwyr yn eu maes ac yn bobol mor angerddol dros eu pwnc.  Ces siom ar yr ochr orau o ddeall taw pobol sy’n byw eu swyddi bob munud o’r dydd yw nifer o staff y sefydliad, pobol sydd wirioneddol yn poeni am faterion nad ydyn ni’n meddwl amdanyn nhw wrth fynd o gwmpas ein bywydau bob dydd; o sut mae gwastraff yn cael ei reoli i sut mae dyfroedd Cymru yn cyd-gysylltu a’r heriau sy’n codi o geisio sicrhau fod natur a dyn yn gallu ffynnu ochr yn ochr.

Soniais ar y dechrau fod y prosiect hwn yn un gwahanol i’r arfer i mi yn bersonol. Rheswm mawr arall am hynny yw bod y gerdd a gyfansoddais yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg. Roedd hynny’n gam naturiol yn sgil y ffaith fod y rhan fwyaf a ddaeth i’r sesiynau (o’u gwirfodd) yn ddi-gymraeg.  Ond braf hefyd oedd gallu plethu’r Gymraeg mewn i’r gerdd, gan greu cerdd sy’n anwahanadwy (gobeithio) lle mae’r ddwy iaith yn y cwestiwn.  Mwynheais hefyd fynd yn ôl i’m dyddiau fel rapiwr aml-ieithog, lle’r arferwn gyfansoddi mwy yn Saesneg yn ogystal ag yn Gymraeg, Llydaweg, Ffrangeg neu Sbaeneg. Fe sylwais wrth imi gyfansoddi fod odlau mewnol yn ymddangos yn naturiol yn y broses, cyfuniad, o bosib, o arfer rapio ac o fedru cynganeddu.  Ac wrth gwrs, mae ambell drawiad cynganeddol yn y gerdd derfynol, o raid! Cewch chithau geisio sylwi ar y cynganeddion sydd yn y darn.

Rhan ola’r prosiect wedyn oedd cael y pleser o gydweithio gyda Mike Harris o gwmni cynhyrchu Optimwm.  Daeth Mike i mewn er mwyn creu fideo o’r gerdd a luniais, a braf oedd gwahodd rhai o’r staff a fu’n rhan o’r sesiynau i ddatgan rhai darnau o’r gerdd ar gamera.  Mae angerdd yr unigolion hynny yn dod drosodd yn wych yn y ffilm derfynol ac rwy’n gobeithio y cewch yr un mwynhad o ddarllen y gerdd ac o wylio’r ffilm ag a gefais i o fod yn rhan o’r prosiect unigryw hwn.

Oes mae gyda ni le i ddathlu cyfoeth naturiol Cymru a hefyd lle i bryderu am golli’r cyfoeth naturiol rydyn ni mor lwcus I allu byw yn ei ganol, ond boed inni gyd fel y cyhoedd wybod fod yna gyfoeth o syniadau, deallusrwydd ac angerdd ymysg staff Cyfoeth Naturiol Cymru.