Dewislen
English
Cysylltwch

Fy Nhaith Ysgrifennu

Cyhoeddwyd Gwe 4 Tach 2022 - Gan Gail Sequeira
Fy Nhaith Ysgrifennu

Rwy’n Indiaidd ac yn Gymraes, cefais fy ngeni yn Bombay ac fe’m magwyd ar hyd a lled India, gan symud gyda fy nheulu yn unol â gofynion gyrfa fy nhad. Treuliais fy mhlentyndod i gyd gyda llyfr o fewn cyrraedd. Pan nad oedd rhai newydd ar gael, fe wnes i ailddarllen fy ffefrynnau. Ond wnaeth erioed fy nharo i y gallwn ysgrifennu fy rhai fy hun.

Symudais i Brydain yn 2012 ar gyfer y Cymro a fyddai’n dod yn ŵr i mi unarddeg mis yn ddiweddarach. Trwyddo ef y syrthiais mewn cariad â llethrau gwyrddion Cymru am y tro cyntaf, ei chopaon boreol yn dorchog yn anadl y ddraig, ei childraethau cyfrinachol a’i thraethau tywodlyd. Dysgodd i mi am gryfder a gwytnwch ei phobl, harddwch ei hiaith hynafol a’r llinyn cryf o greadigrwydd sy’n rhedeg drwy’r cenedlaethau o bobl sydd wedi galw Cymru yn gartref iddynt. Mae hyn i gyd yn gymaint o ran o fy modolaeth heddiw fel nad wyf bellach yn gwybod pwy fyddwn i hebddo.

Ar 1 Hydref 2020, cefais fy neffro gan freuddwyd fywiog iawn. Fe wnes i droi’r gliniadur ymlaen a gweithio’n soled am ddeunaw awr. Dyna sut y dechreuais ysgrifennu fy nofel gyntaf, Pen Morgan for the Win. Mae’n ymwneud â Pen Morgan, merch un ar ddeg oed, sy’n hanu o ddau fyd gwahanol ac sy’n gorfod dod o hyd i ffordd i orchfygu ei hofnau er mwyn achub y rhai y mae’n eu caru.

Cwblheais fy nrafft cyntaf bum mis yn ddiweddarach a threuliais weddill y cyfnod clo yn hapus wrthi’n golygu.

Rwy’n aelod o grŵp barddoniaeth lleol ac rwy’n dablo â gwahanol fathau o farddoniaeth, ond nid wyf erioed wedi rhoi cynnig ar unrhyw beth fel hyn o’r blaen. Ddim yn anarferol ynddo’i hun, oherwydd rydw i wedi treulio fy mywyd yn llamu heb edrych.

Dywedodd ffrind o’r grŵp, a oedd yn gwybod am Pen Morgan, wrthaf am gwrs Llyfrau i Bawb roedd Llenyddiaeth Cymru yn ei gynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yng ngogledd Cymru. Doedd gen i ddim hyfforddiant mewn llenyddiaeth bryd hynny, ac eithrio fy ngrŵp barddoniaeth, doedd gen i ddim cysylltiadau â’r byd llenyddol o gwbl. Dyma oedd fy nghyflwyniad cyntaf i Llenyddiaeth Cymru. Llenwais y ffurflen gais allan gyda chwilfrydedd ac anghofiais am y cyfan nes i e-bost gyrraedd ar yr adeg perffaith: ar y diwrnod y methais fy ail brawf gyrru. Rhoddodd hwnnw yr egni roeddwn ei angen i fynd amdani i gael prawf arall a’i basio, a mi wnes i, dim ond pythefnos cyn y cwrs. Fyddwn i erioed wedi gallu cyrraedd Tŷ Newydd yr wythnos honno o Aberhonddu pe na bawn i’n gallu gyrru.

Tydw i ddim yn cofio beth oeddwn yn ei ddisgwyl cyn cyrraedd Tŷ Newydd. Cefais fy nharo’n ddwfn gan angerdd ac ymrwymiad diffuant Llenyddiaeth Cymru i gyflawni tirwedd lenyddol sy’n cynrychioli demograffeg ddiwylliannol ein cenedl hardd a bywiog.

Yn yr heddwch a’r awyrgylch groesawgar yno, darganfyddais ran ohonof fy hun nad oeddwn yn gwybod ei fod yn bodoli.

Llwyddais i lyfnhau’r garw gyda diolch i diwtoriaid y cwrs, Patience Agbabi a Jasbinder Bilan, gyda’i gweithdai a’u sesiynau tiwtora, a hefyd y cyfranogwyr eraill a rannodd eu profiadau hunain yn hael.

Nid yn unig y mae fy ngwaith wedi elwa a gwella ers mynychu’r cwrs, dydw i bellach ddim yn teimlo fy mod ar ben fy hun; mae gen i rwydwaith sy’n llawn o bobl fel fi. Yn ystod y gweithdai datblygais yr hedyn o syniad oedd gen i am brosiect newydd, antur gyffroes arall am gyfeillgarwch sy’n croesi ffiniau.

Yn ystod y cwrs, fe wnaeth y cynadleddau fideo gyda chyhoeddwyr dynnu’r dirgelwch o’r hyn sy’n dod ar ôl yr ysgrifennu. Yn ystod y gynhadledd fideo gyda golygydd o Firefly Press, cawsom wybod am Gystadleuaeth Ffuglen Plant Firefly (Cymru) 2022.

Diolch i bopeth a ddysgais a’r anogaeth a gefais yn ystod y cwrs Llyfrau i Bawb, cyflwynais fy nofel gyntaf ac fe gyrhaeddodd Pen Morgan For the Win y rhestr fer!