Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter

Cyhoeddwyd Llu 2 Meh 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter

Holi’r Golygydd a’r Awdur: Llŷr Titus

Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?

Wnes i  ddim! Ond pan wnaethon ni ddechrau Cylchgrawn y Stamp fel criw o ffrindiau mi oedd rhaid dechrau arni! Mi wnes i ddarganfod wedyn mod i’n mwynhau! 

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Y pethau a’r bobl o fy ngwmpas i,  a chrwydro. 

 

Beth yw eich hoff lyfr o’ch plentyndod?

Taid a’r Sosej – chwip o lyfr o be dwi’n gofio ond does gen i ddim copi erbyn hyn yn anffodus. 

Beth ysgogodd chi i fod eisiau golygu’r gyfrol?

Mi oeddwn i am gyd-olygu cyfrol fyddai o fudd i mi pan oeddwn i’n ieuengach a rhannu straeon pobl ifanc LHDTCRA+ ar draws Cymru. 

Pwy ddylai ddarllen eich llyfr a pam?

Pawb – pobl ifanc yn enwedig ond pobl sy’n rieni neu’n neiniau a theidiau sy’n teimlo eu bod nhw am ddysgu mwy am ein cymuned. Mi ddylai’r rheiny sy’n wfftio wrth feddwl am y gyfrol ei darllen yn enwedig i weld os medran nhw fagu mymryn o empathi. 

Allwch chi esbonio mwy am y llyfr os gwelwch yn dda?

Pwy yw eich arwr a pam?

O, peth peryg ydi meddwl gormod am rheiny!

Eich hoff le yn y byd a pam?

Pen acw, Llŷn yn enwedig pan nad oes yna lawer o bobl o gwmpas. 

Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?

Gwych! Dwi’n falch iawn fod y cyfranwyr a’r gyfrol yn cael mwy o sylw a chlod  – rhan fechan wnes i chwarae yn y cyfanwaith ond dwi’n falch mod i wedi gallu helpu. 

 

Yng Ngeiriau’r Beirniaid…

Darllen Pellach:

Erthygl BBC Cymru Fyw – Cyhoeddi enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2025 – BBC Cymru Fyw

Prynu’r gyfrol – Cymry. Balch. Ifanc.

Clwb Llyfrau LHDTC+, Llyfrau Lliwgar – Instagram Llyfrau Lliwgar