Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Myrddin ap Dafydd

Cyhoeddwyd Mer 4 Meh 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Myrddin ap Dafydd

Holi’r Awdur: Myrddin ap Dafydd

Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?

Cyhoeddwr ydw i nid awdur! Ond o dro i dro rhaid i gyhoeddwr sgwennu llyfrau i gadw ei wasg ei hun i droi. 

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Straeon a hanesion syn cynnig deunydd nofelau imi.

Beth yw eich hoff lyfr o’ch plentyndod?

Nofelau T. Llew Jones.

Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?

Yr annhegwch mawr y tu ôl i farwolaeth pedwar a saethwyd gan y Kings Regiment adeg gwrthdystiad cefnogwyr y glowyr yn yr Wyddgrug yn 1869.

Sut ydych chi’n mynd ati i ddewis enwau eich cymeriadau?

Mae llawer o lysenwau glowyr yn y nofel hon ymchwilio i hanes enwau or fath yn sir y Fflint a chael sbort yn creu rhai newydd 

Allwch chi esbonio mwy am y llyfr os gwelwch yn dda?

Eich hoff le yn y byd a pam?

Halfpenny Bridge Dulyn –¯dim ots pa ffordd rwyt yn ei chroesi, mae glan ddifyr o dy flaen.

Oes gennych chi waith/digwyddiad arall ar y gweill?

Cerddi a chaneuon ar y funud.

Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?

Mae’n anrhydedd!

 

Yng Ngeiriau’r Beirniaid…

Darllen Pellach:

Adolygiad nation.cymru – Book review: Bracken and Bryn – From the mountain to the mine

Stori Golwg360 – ‘Mynd dan groen hanes’ mewn nofelau i’r ifanc – Golwg360

Prynu copi o’r llyfr – Rhedyn, Merlyn y Mawn – Gwasg Carreg Gwalch