Noddfa

Rwyf wrth fy modd bod fy nghasgliad cyntaf o straeon byrion A City Burning (Seren , 2020) wedi cyrraedd Rhestr Hir Gwobr Straeon Byrion Edge Hill. Datblygwyd y casgliad â chefnogaeth Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru.
Rwyf yn y broses o ysgrifennu fy ail gasgliad o gerddi, tra bod y cyntaf dan ystyriaeth i gael ei gyhoeddi. Y thema yw Noddfa.
Mewn cyfnod o enbydrwydd, rydym oll yn crefu am le sydd yn gwneud i ni deimlo yn ddigon digoel i fod yn ni’n hunain a threulio amser yn atgyweirio cyn dechrau o’r newydd eto. Mae’r pandemig wedi rhoi profiadau o noddfa i ni wrth i ni oll fod, neu beidio bod, yn noddfa i’n gilydd. Yn ogystal, mae patrymau ymfudo wedi amlygu eu hunain yn ddiweddar wrth i bobl ffoi perygl, a gobeithio dod o hyd i ddihangfa saff i’w alw’n gartref.
Ynghyd â beirdd eraill, mae Angela Graham wedi mynd ati i greu gwaith â’r gobaith o gyhoeddi llyfr fydd yn clymu Cymru a Gogledd Iwerddon, a rhannau eraill o’r byd, drwy brofiadau o noddfa. Maent yn ymchwilio beth yw noddfa, ble mae noddfa, a phwy yw noddfa.
Gellir darllen blog Angela yn llawn yma.