Dewislen
English
Cysylltwch

From Now On: Duke Al Durham

Cyhoeddwyd Gwe 3 Medi 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
From Now On: Duke Al Durham
Ch - Dd: Duke Al Durham a darluniad gan Efa Blosse Mason

Licris

Gan Duke Al Durham

Rhybudd cynnwys: Gall y gerdd yma beri gofid i rai darllenwyr gan ei bod yn cynnwys disgrifiadau o brofiadau o wahaniaethu ar sail hil, gan gynnwys difrïo hiliol.

Mae’r hogiau du’n ei alw’n nigger ‘ish’,

Mae’r hogiau gwyn yn ei alw’n licris,
Ac maen nhw, ar y cae chwaraeon,
Yn ei alw fo yn fwnci gwirion,

Yn rhoi’u dwylo dan eu ceseiliau,
Yna’n chwythu ac yn chwyddo’u bochau,

Yn taflu ato groen banana,

Yn creu ŵ-a, ŵ-a â’u lleisia’!

Yn y gaea maen nhw’n ei alw’n welw,
Yn yr haf, yn fudur ac yn salw,

A phan fydd y goleuadau’n diffodd,
Agor dy lygaid, maen nhw’n ailadrodd,
Neu falle rho wên fach i’n difyrru.
Maen nhw’n chwerthin, yntau’n diflasu,
Y jôcs yma’n syrffed ar ôl cyfnod
Wrth iddo fo eto guddio’i chwithdod.

Wrth gerdded y stryd efo’r plantos duon,
Mae o’n rhan o gang, meddai’r sibrydion.
Yr heddlu’n dragywydd yn ei stopio,
Troseddwr posib, dyna ydi-o.
Ymhlith plant gwyn, mae ’na docynistiaeth.
Gan rai hŷn, hogyn ‘lliw’ ydi’r driniaeth.
Cywirdeb gwleidyddol wedi methu.
Ond o’u rhegi yn ôl, mi gaiff o’i chwalu.

Mae hon yn adlais drwy’r cenedlaethau
Ymhlith pobl sydd â’r un meddyliau,
Meddyliau caeedig, fyth yn agored
I frwydro’r stigma sydd hyd syrffed

Yn llawn celwyddau am bobl dduon.
Mae’i agwedd yn beryg, mae’n llawn peryglon.
‘Yli’i wisg o. Sut mae’n cerdded, yn odli.

Ond ydi o’n ddu? Wel, dweud ni fedri.’

Aeth blwyddyn neu ddwy arall heibio,
Dechreuodd wybod pwy’n union oedd-o.
Yn falch o hyn, mae’n penderfynu
Herio’r holl dwpdra, a’i wynebu.

Ond nid pawb sy’n dwp er gwaetha hynny,
Ac nid pawb ’fynnai ei anwybyddu,
Nid pawb chwaith ’gwestiynai’i bigment,
A rhai pobl – wel fe’i cefnogent,

Hyd yn oed o’i lysenwi’n licris.

Na, ni fydd pawb yn hoff o’i ddewis,
Mae’n codi llais yn erbyn hilgwn,
Yn herio’u casineb a’u holl fyrdwn.
O’i alw yn ‘wyn â gwefusau rwber’,
Mae’n dweud, ‘na, dwi’n hanner a hanner,
A rhyngon ni mae na ffaith wahanol,
Dy feddwl di sydd yn gul ryfeddol.
Ti’n ofni popeth sy’n ddiarth iti,
Y syniad o epa’n dal i dy boeni,
Heb addysg, rwyt ti’n dal ati i wrando
Ar flynyddoedd o farn, na wnest ti’i llunio,
Finnau’n y golau llachar yn pefrio,

Am na wnaiff casineb fyth fy stopio.
A chithau, a’r gweddill, yn dal i holi,

Pa liw yn union ydi’i groen o, sgwn-i?’