Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Mae Bywyd Yma

Cyhoeddwyd Gwe 31 Mai 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Mae Bywyd Yma

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.

Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Mae Bywyd Yma gan Guto Dafydd, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Barddoniaeth Cymraeg.

 

Mae Bywyd Yma, Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae’r cywaith hwn rhwng y bardd Guto Dafydd a’r ffotograffydd Dafydd Nant yn ddathliad dau ffrind o’u cynefin yn Llŷn. Yn y cerddi a’r lluniau gwelir harddwch y fro, ac eir i’r afael â’i threftadaeth amrywiol – y morwrol a’r diwydiannol, y crefyddol a’r diwylliannol, y cymunedol a’r teuluol. Mae’r cyfanwaith yn dangos bod modd gwerthfawrogi holl gyfoeth cymhleth bywyd yn Llŷn.

Am yr Awdur

Mae Guto Dafydd yn fardd ac yn nofelydd. Yn wreiddiol o Drefor, mae bellach yn magu Casi a Nedw ym Mhwllheli gyda Lisa. Enillodd y Goron yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2014 a 2019, a chyhoeddi Ni Bia’r Awyr (Cyhoeddiadau Barddas), cyfrol o gerddi, yn 2014. Mae ei farddoniaeth yn sôn am berthynas pobl, eu hunaniaeth a’u straeon, a’r tir. Ar ôl cyhoeddi’r nofel Stad yn 2015, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am Ymbelydredd yn 2016 a Carafanio yn 2019. Mae ei nofelau (oll wedi eu cyhoeddi gan Y Lolfa) yn sôn am Gymry yn Lloegr, a chreaduriaid sy’n cael trafferth dygymod â’u hamgylchiadau yn y byd.

Mae Mae Bywyd Yma yn gywaith barddoniaeth a ffotograffiaeth. Lluniau gan Dafydd Nant.

 

Gwylio, Darllen, Gwrando!

Adolygwyd y gyfrol ar wefan Nation Cymru ym mis Mai 2024.

Sgwrs rhwng Golwg360 a Guto Dafydd ym mis Mehefin 2024.

 

Prynu’r Llyfr

Gallwch brynu Mae Bywyd Yma trwy wefan Gwasg Carreg Gwalch.

Prynu Nawr