Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Trothwy

Cyhoeddwyd Gwe 31 Mai 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Trothwy

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.

Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Trothwy gan Iwan Rhys, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg.

 

Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

Myfyrdodau cynnes y bardd ac awdur, Iwan Rhys, wrth iddo groesi sawl trothwy mewn bywyd yw Trothwy. Mae’r gyfrol yn trafod perthyn ac adnabyddiaeth gyda ffraethineb wrth i’r prif gymeriad geisio cael ei dderbyn yn niwylliant y dafarn leol yng Nghaernarfon ac ym Merlin, yn ogystal ag ym mywydau meibion ei bartner newydd. Mae’r gyfrol yn plethu cynhesrwydd bywyd teuluol gydag agweddau rhyngwladol, wrth iddo gynnwys golwg Cymro ar Berlin, a phrofiadau teulu teirieithog ac aml genedl.

 

 

Am yr Awdur

Magwyd Iwan Rhys ym Mhorthyrhyd, Cwm Gwendraeth. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith; yn 2001 ac yn 2008. Mae’n aelod o dîm talwrn Dros yr Aber a thîm Y Deheubarth yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw awdur y gyfrol Eleni Mewn Englynion (Gwasg Carreg Gwalch) a’r nofel Y Bwrdd (Y Lolfa).

 

 

 

Gwylio, Darllen, Gwrando!

Trafodwyd Trothwy ar bodlediad Colli’r Plot fis Ebrill 2024: What the Blazes!

Cafodd Iwan Rhys sgwrs gyda Mari George a Mari Siôn ar bodlediad Caru Darllen ym mis Tachwedd 2023.

 

Prynu’r Llyfr

Gallwch brynu Trothwy trwy wefan Y Lolfa.

Prynu Nawr