Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Anfadwaith

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Anfadwaith gan Llŷr Titus, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Ffuglen Cymraeg.
Anfadwaith, Llŷr Titus (Y Lolfa)
Nofel ffantasi dywyll sy’n plethu dirgelwch, trosedd a byd llawn dychymyg.
Cyfraith a threfn ydi pwrpas y Gwigiaid byth ers i’r Derwyddon eu tynnu i’r byd ac er bod y rheiny’n hen hanes erbyn hyn, mae rhai o’r Gwigiaid yn dal i grwydro’r teyrnasoedd yn chwilio am droseddwyr. Er bod Ithel wedi gweld pob math o bethau rhyfedd ac ofnadwy, mae eu hachos diweddaraf y tu hwnt i hynny i gyd ac mae rhywrai, neu rywbeth, wrthi’n cynllwynio yn y cysgodion.
All Ithel ac Adwen ddod at wraidd pethau cyn ei bod hi’n rhy hwyr? Ar daith beryglus mae’r Gwigyn a’r porthmon yn dod i ddeall ei gilydd yn well ac yn dysgu bod mwy mag un math o anfadwaith ar ben y daith.
Am yr Awdur
Un o Frynmawr ger Sarn ym Mhen Llŷn ydi Llŷr Titus. Mae’n awdur a dramodydd, yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Cymunedol y Tebot, cylchgrawn Y Stamp a gwasg Cyhoeddiadau’r Stamp. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia (Gomer@Atebol), Wobr Tir na n-Og yn 2016. Enillodd ei nofel, Pridd (Gwasg y Bwthyn) Brif Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2023.
Gwylio, Darllen, Gwrando!
Trafodwyd Anfadwaith ar bodlediad Colli’r Plot fis Ebrill 2024: What the Blazes!
Bu Llŷr Titus a Peredur Glyn yn westai ar bodlediad PenRhydd yn Awst 2023.
Prynu’r Llyfr
Gallwch brynu Anfadwaith trwy wefan Y Lolfa.