Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Jac a’r Angel

Cyhoeddwyd Gwe 31 Mai 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Jac a’r Angel

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.

Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Jac a’r Angel gan Daf James, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Plant a Phobl Ifanc Cymraeg.

 

Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)

Mae Jac yn byw ym mhentref bach Bethlehem gyda’i dad-cu, ond mae’r Nadolig wedi ei ganslo ar yr aelwyd eleni. Felly pan ffrwydra angel allan o galendr adfent ei fam, a chynnig dymuniad iddo, mae’n edrych fel petai’r rhod yn troi. Ei ddymuniad? Cael chwarae rhan Mair yn sioe Nadolig yr ysgol.

Ond pan mae’r Nadolig yn dechrau diflannu o’i gwmpas, a theulu’r Heroniaid yn chwalu ei gynlluniau, mae Jac yn gwneud darganfyddiad a fydd yn newid ei fyd – a’r Nadolig – am byth.

 

 

 

Am yr Awdur

Mae Daf James yn un o ddramodwyr, sgriptwyr, cyfansoddwyr a pherfformwyr amlycaf Cymru. Yn ogystal â phortreadu’r cymeriad cerddorol ‘Sue’, Daf yw awdur y dramâu arloesol Llwyth aTylwyth. Bydd ei gyfres ddrama Lost Boys & Fairies yn cael ei darlledu ar BBC1 yn 2024. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i ŵr a’u tri phlentyn. Jac a’r Angel yw ei nofel gyntaf.

Mae Jac a’r Angel yn cynnwys darluniau gan Bethan Mai.

 

Gwylio, Darllen, Gwrando!

Gwrandewch ar sgwrs onest am fywyd a gwaith rhwng Tara Bethan a Daf James ar bodlediad Dewr ym mis Rhagfyr 2021.

Bu golwg360 yn sgwrsio gyda Daf James ym mis Tachwedd 2023.

Cafodd Daf James ei gyfweld ar gyfer gwefan Llyfrgelloedd Cymru ym mis Tachwedd 2023.

Prynu’r Llyfr

Gallwch brynu Jac a’r Angel trwy wefan Y Lolfa.

Prynu Nawr