Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Astronot yn yr Atig

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Plant a Phobl Ifanc Cymraeg.
Astronot yn yr Atig, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Mae Rosie Alaw, 11 oed, yn dod ar draws llong ofod ar y llwybr ar ei ffordd adref o’r ysgol. Mae hi’n methu credu ei lwc, oherwydd mae hi wedi gwirioni ar bopeth sy’n ymwneud â’r gofod a’r sêr a’r galaethau a’r planedau sydd y tu hwnt i ddychymyg!
Pan mae Astronot a Ffred yn gofyn am help Rosie, mae hi’n mynd ar daith arallfydol anhygoel! Ond mae’n mynd ar daith i’w darganfod hi ei hun hefyd, a rhaid iddi fod yn ddewr a goresgyn nifer o broblemau.
Nofel annwyl, sy’n llawn antur, am bwysigrwydd teulu a ffrindiau ac am dyfu i fyny mewn byd heriol.
Am yr Awdur
Mae Megan Angharad Hunter yn awdur a sgriptiwr o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ers graddio yn 2022, mae hi wedi bod yn gweithio fel awdur a golygydd llyfrau plant. Cyhoeddwyd tu ôl i’r awyr (Y Lolfa) – ei nofel gyntaf yn 2020 – aeth ymlaen i ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a chyhoeddwyd Cat (Y Lolfa) fel rhan o gyfres arobryn Y Pump yn 2021. Yn 2023 cafodd gyfle i gymryd rhan mewn gŵyl lenyddol yn India ac yn Ffair Lyfrau Llundain. Astronot yn yr Atig yw ei nofel gyntaf i blant.
Gwylio, Darllen, Gwrando!
Cyfweliad gyda Megan Angharad Hunter ar wefan Llyfrgelloedd Cymru ym mis Hydref 2023.
Cafodd Astronot yn yr Atig ei hadolygu ar gyfer gwefan Nation Cymru ym mis Mehefin 2024.
Prynu’r Llyfr
Gallwch brynu Astronot yn yr Atig trwy wefan Y Lolfa.