Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Y Nendyrau

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Y Nendyrau gan Seran Dolma, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Plant a Phobl Ifanc Cymraeg.
Y Nendyrau, Seran Dolma (Gwasg y Bwthyn)
Nofel wedi’i lleoli mewn dyfodol dychmygol, ond nid mor annhebygol â hynny, yw Y Nendyrau. Yn sgil cynhesu byd eang, mae’r byd wedi newid a Daniel, bachgen yn ei arddegau, a’i gymuned yn byw mewn nendwr ar gyrion dinas a aeth dan y môr rywle yn Asia. Yna un diwrnod mae’n gweld wyneb merch yn y tŵr gyferbyn; Rani yw hon, ac mae popeth yn newid o hynny ymlaen.
Diddordeb mawr Daniel yw darlunio comics, ac mae comic go iawn, yn adrodd stori Aqualung, wedi ei gynnwys o fewn y nofel ei hun.
Enillodd Y Nendyrau gystadleuaeth nofel i bobl ifanc Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Mae’n ddyfeisgar, yn wahanol ac yn sicr o apelio at ystod eang o ddarllenwyr. Gyda llaw gelfydd artist mae Seran Dolma yn ymdrin â themâu pwysig newid hinsawdd, brawdgarwch, y reddf i oroesi, a’r berthynas rhwng y tlawd a’r pwerus.
Dyma nofel i’ch swyno a gyrru ias i lawr eich asgwrn cefn.
Am yr Awdur
Mae Seran Dolma yn byw ym Mhenrhyndeudraeth gyda’i phartner a’u dau fab ac yn gweithio fel Curadur Profiadau ym Mhlas Brondanw, Llanfrothen. Yn ei bywyd blaenorol, bu’n gweithio ym maes yr amgylchedd, ac mae’r diddordeb hwn yn parhau yn ei gwaith ysgrifennu. Hon yw ei nofel gyntaf.
Gwylio, Darllen, Gwrando!
Bu golwg360 yn sgwrsio gyda Seran Dolma ym Mai 2024.
Trafodwyd Y Nendyrau ar bodlediad Colli’r Plot ym mis Hydref 2023.
Prynu’r Llyfr
Gallwch brynu Y Nendyrau trwy wefan Gwales.