Sialensau Wythnosol Bardd Plant Cymru – Eich Cerddi Chi! (Wythnosau 1-4)

Bob dydd Llun ers 30 Mawrth, mae Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen a’r Children’s Laureate Wales, Eloise Williams wedi bod yn gosod sialensau ysgrifennu creadigol newydd i blant Cymru.
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn lle mae llawer o weithdai a digwyddiadau wedi cael eu gohirio, mae’r sialensau’n ffordd i Gruffudd ac Eloise barhau i ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth. Mae hi wedi bod yn wych i weld plant Cymru’n ymateb i’r sialensau – daliwch ati!
Caiff y sialensau wythnosol eu gosod bob bore Llun. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut y gallwch gymryd rhan, ar gael ar ein gwefan, Facebook, Twitter (Bardd Plant Cymru / Children’s Laureate Wales) ac Instagram.
Bydd pob un sy’n anfon cerdd, stori neu adolygiad atom yn derbyn cerdyn post wedi’i lofnodi’n arbennig iddynt gan Gruff neu Eloise.
Mae’r ymatebion i’r sialensau wedi bod mor wych hyd yma. Dyma bigion o 4 sialens cyntaf Bardd Plant Cymru. Mwynhewch!
Gellir darllen a chlywed yr holl gerddi ar dudalen Twitter Bardd Plant Cymru yma.
Sialens Wythnosol 1
Roeddem wrth ein boddau gyda’r ymatebion i’r sialens gyntaf – derbyniwyd sawl cerdd anhygoel a theimladwy am yr hyn yr ydych yn ei weld drwy eich ffenestri.
Sialens Wythnosol #1
Ewch amdani! pic.twitter.com/UyfRnZQy1i
— Bardd Plant Cymru (@BarddPlant) March 30, 2020
Fy Ffenestr i, gan Beca
Bore’n gwawrio, diwrnod newydd
Llenni’n agor, gweithred beunydd.
Ond beth welaf i heddi drwy fy ffenestr i?
Ŵyn bach yn prancio, eu mamau’n pori.
Dail yn blaguro, canghennau’n chwythu,
Cennin Pedr yn dawnsio gan ddisgwyl cwmni.
Yr heol bellach sy’n oeredd dawel
Dim enaid byw i weld ar y gorwel.
Byd natur sy’n ffynnu –
O gael Ilonydd gan y rheiny
Sy’n Iladd ar y byd sydd mor rhyfeddol.
Gwrandewch bobol!
Pawb yn brysur yn eu tai,
Plant yn gweithio – cyn mwynhau
Doctoriaid, nyrsys yn gweithio’n ddi-baid
Achub bywydau, angylion bendigaid.
Diolch iddynt, diolch Aneurin Bevan
Gweledigaeth gall achub cenedl gyfan.
Haul yn machlud, diwedd dydd.
Llenni’n cau, oes yna ffydd?
Ffydd y daw eto, haul ar fryn
Cymru mi oroeswn, amddiffynnwn ein cyd-ddyn.
Trwy’r Ffenest, gan Catrin
Rwy’n eistedd yma bore ‘ma,
Yn edrych drwy y ffenest.
Mae pawb drwy’r wlad, pawb drwy’r byd,
Yn trio ennill gornest.
Mae’r nyrsys yn brysur,
A’r gymuned yn gryfach nag eriod.
Arhoswch dros ddwy fetr i ffwrdd!
Rhaid achub y bobl mewn oed.
Does neb ar y lôn,
Bron neb yn y gwaith.
Dim ond un siawns i fynd tu allan.
Ble mae ein ysbrydoliaeth?
Ond, mae digon o fideos YouTube,
A digon o weithgareddau ar Facebook!
Rydym YN gallu cael Facetime â ffrindiau
Yn yr oes yma – drwy lwc!
Be’ wela’ i drwy fy ffenesr fach i? gan Dyfan
Llygoden fach lwyd
Heb gael dim bwyd
Ac adar bach bach
Yn hedfan mewn strach.
A thŷ bach gwyn
Wrth ymyl y llyn,
Defaid mawr gwyn
Yn chwarae ar y bryn.
Brigau main y coed,
Milflwydd oed,
Car bach glân,
A’i injian i gyd allan.
Blodau yr ardd
Yn andros o hardd
Gwartheg brown
Pob un fel clown!
Pwy ŵyr be’ fydd fory
Yn fy ngardd di-ri?
Mi fydda i’n dal i edrych
Trwy fy ffenast fach i.
Y Byd drwy fy Ffenest, gan Elliw ac Iolo
Gwelaf yr ysgol â’i giatiau ar gau,
Yn atgoffa cymdeithas fod bywydau yn frau.
Gwelaf, ymhlith y drain yn y llwyn,
wennol, cynffonnau ŵyn bach a swyn
y gwanwyn yn dod i liwio ein tir,
yn llonni er gwaetha’r caethiwed hir.
Gwelaf gymdogaeth yn uno fel côr
i glapio a bloeddio eu diolch i’r môr
o ddoctoriaid dewr sy’n mynd i’r gad
i’n hachub ni, drigolion y wlad.
Gwelaf gymylau’n cronni uwchben,
Ond yna daw enfys i wenu’n y nen,
A gweld yr wyf i nad oes rhaid teithio’n bell,
I werthfawrogi fy myd a’i ddeall yn well.
Dyma gerdd gan ddisgybl o Ysgol Hamadryad
Cerdd gan un arall o ddisgyblion @YsgolHamadryad. Diolch @BarddPlant @llencymru am roi ysbrydoliaeth a her i’r plant! 📚 📖 pic.twitter.com/UMEcIKsKcA
— Branwen Gwyn (@bffg78) March 31, 2020
Fy Ffenest Fach i, gan Llew
Be’ alla i weld drwy fy ffenest fach i?
Wela i’r coed mawr, tal a chryf.
Wela i’r môr yn gwlychu’r traeth
a wela i’r mynyddoedd fel marblys yn y pellter.
Be alla i weld drwy fy ffenest fach i?
Wela i’r ardd fach werdd.
Wela i’r blodau lliwgar yn tyfu’n araf
a’r adar yn yr awyr yn lle’r awyrennau.
Be alla i weld drwy fy ffenest fach i?
Wela i’r haul yn disgleirio’n braf.
Yn enfys yn dod â gobaith i bawb,
a’r plant yn chwarae’n hapus.
Be alla i weld drwy fy ffenest fach i?
Wela i’r gwynt a’r glaw yn stopio hwyl pawb.
Wela i’r storm gryf ofnus,
cyn i’r tywydd oer gymryd ei le.
Be alla i weld drwy fy ffenest fach i?
Wela i ddoctoriaid a nyrsys a heddlu
yn dewis mynd i’w gwaith
fel arwyr yn ein gwarchod ni.
Be alla i weld drwy fy ffenest fach i?
Wela i’r byd mewn ffordd wahanol.
Y da a’r drwg, bob dydd.
I gyd drwy fy ffenest fach i.
Be’ wela’ i drwy’n ffenest fach i? gan Mared
Be’ wela i drwy’n ffenest fach i?
Gardd llawn o flodau ac adar di-ri,
Planhigion sy’n tyfu, sy’n ‘mestyn i’r nen
A chymylau yn crwydro o gwmpas fy mhen.
Be’ wela i drwy’n ffenest fach i?
Y postmon yn cerdded o dŷ i dŷ,
Ac ambell i ‘dderyn yn canu’n y dail,
Mor swynol eu halaw yng ngwres yr haul.
Be’ wela i drwy’n ffenest fach i?
Yr ysgol yn dawel, mor rhyfedd i mi.
Dim sŵn ar y buarth, y giât sydd ar gau,
Athrawon a phlant sy’n saff yn eu tai.
Be’ wela i drwy’n ffenest fach i?
Y drafforth sy’n llonydd, yn wir i chi,
Dim ceir yn sgrialu na gyrrwyr o’u cô’
Dim nwyon yn llygru o gwmpas y fro.
Be’ wela i drwy’n ffenest fach i?
Sawl enfys yn gwenu drwy wydr pob tŷ,
Mi wela i obaith am ddyddiau llawn lliw
Llawn dathlu a joio yng nghwmni fy nghriw.
Sialens Wythnosol 2
Yn wir, fe aethon ni ar daith rithiol gyda’r sialens gyntaf wrth ddarganfod sawl anifail, bach a mawr. Diolch i chi gyd am yr holl ymatebion. Cafwyd sawl ymateb diddorol i’r ail sialens wrth inni fynd i’r Sŵ, at lewod peryglus ond caredig, ac at fochyn drwg.
Sialens Wythnosol #2 pic.twitter.com/76oei48JfR
— Bardd Plant Cymru (@BarddPlant) April 6, 2020
Llion y Llew, gan Ifan
Mae Llion y Llew
yn anifail mawr tew
sy’n rhuo a rhuo
a’n gwneud i blant grio.
Ond weithiau mae Llion
yn anifail bach tirion
sy’n barod i gwtsho
plant bach sy’n crio.
Mae Llion y Llew
yn ffrind da i mi
mae’n gwneud i mi wenu
cyn mynd i’r gwely.
Diolch Llion.
Anifeiliaid, gan Mared
Mickey a Minnie sy’n annwyl i ni,
Y ddau yn ffrindiau i ti a fi.
Casglu llofnodion a lluniau lu,
Anifeiliaid Disney sy’n hwyl a sbri.
Donald Duck, mae e’n ddrygionus,
A Daisy ei ffrind sy’n hwyaden anturus.
Neidio, dawnsio, perfformio â ni,
Anifeiliaid Disney sy’n hwyl a sbri.
Nemo sy’n joio cuddio,
A Dory ar ras i’w ffeindio.
Anwybyddu ei dad yn hŷ,
Anifeiliaid Disney sy’n hwyl a sbri.
Cwmni da a bywyd hudol.
Chwarae a chwerthin a bod yn ddoniol.
Y rhain i gyd sy’n rhoi cwtsh i ni,
Anifeiliaid Disney sy’n hwyl a sbri.
Dyma gerdd am y Mochyn Drwg gan blentyn o @YsgolHamadryad 🐷 pic.twitter.com/8c00l5QqCN
— Bardd Plant Cymru (@BarddPlant) April 10, 2020
Cerdd wythnos hon…Y Llew 🦁 Diolch am yr her @BarddPlant @LlenCymru pic.twitter.com/TuUfeClsQE
— Sioned Mai Fidler (@SionsMai) April 11, 2020
Ac fy un i wrth gwrs…Y Crocodeil 🐊 @BarddPlant @LlenCymru pic.twitter.com/MOUjpHWyYz
— Sioned Mai Fidler (@SionsMai) April 11, 2020
Sialens Wythnosol 3
Aethom ar daith rithiol eto gyda sialens wythnosol 3 i’r siop i brynu sawl peth, rhai pethau rhyfedd iawn a dweud y gwir, a breuddwydio am yr holl bethau i’w gwneud ar ôl y cyfnod anodd hwn.
Bore daaaaa! Dyma Sialens Wythnosol #3 👇 pic.twitter.com/KwA15Q9EKF
— Bardd Plant Cymru (@BarddPlant) April 13, 2020
Aros i Tŷ Nain, gan Elinor
Pacio bag Galaxy
i fynd ar antur faith.
Yn gyntaf fflamingo,
a hwnnw’n batrymog.
Yn ail, clown siaradus
sydd wastad yn hapus.
Yn drydydd llygoden fach ddel
a photyn o fêl.
Nesaf, bisgedi siocled,
rhai meddal a rhai caled.
Wedyn het fawr biws,
fydd yn cael dipyn o ‘use’.
Ac yn olaf llun o mam
yn llowcio brechdan ham!
Mae Sŵ Gaer ar Gau, gan Elsa
A ninnau gyd adre’n cadw’n saff a chlyd
Mae’r anifeiliaid yn cael parti,
Yn hapus iawn eu byd.
Mae’r llewod yn llefaru
Yn Eisteddfod y Sŵ,
Y Jiraff yn jyglo,
A’r Panda’n cael pŵ.
Y Teigr yn trampolinio,
A’r Fflamingos mewn fflap,
Fod y Parot yn parablu yn ddi-stop.
Mae’r llewpart yn llawen
Fod y caffi ar gau
Hufen iâ,a phitsas, a phop i bawb!
Mae’r swrigath yn swnian
Fod y prociwpine yn pigo
A’r Hipo yn hopian yn y mwd.
Mae cipar y sŵ wedi drysu
Mae’r anifeiliaid i gyd yn hurt.
“Arhoswch adre da chi
I ni gael ail agor yn fuan.”
Dyma gerdd gan ddisgybl o Ysgol Glan Morfa
Sialens 3 @BarddPlant @1GlanMorfa pic.twitter.com/b1YutJL4Tc
— Lels Edwards (@edwards_lels) April 15, 2020
Rhestr Dymuniadau, gan Mared
Cyn bo hir hoffwn i,
Fynd ar wyliau a gadael y tŷ,
Hedfan yn rhydd yn yr awyr las,
Gwibio’n uwch, i ffwrdd ar ras.
Cyn bo hir hoffwn i,
Fynd i’r parc am hwyl a sbri.
Cuddio, neidio, dringo fry,
Chwarae’n hapus a wnawn ni.
Cyn bo hir hoffwn i,
Weld fy ffrindiau ysgol lu.
Gweithio’n dawel fel llygod bach,
Darllen, canu a byw yn iach.
Cyn bo hir hoffwn i
Fynd i’r sinema gyda ti.
Bowlio, siopa, beicio, nofio,
Gobeithio’n wir cawn wneud hyn eto.
Beth sydd yn fy Masged Siopa? gan Henry
Mae gen i filoedd o bethau dwi angen heddiw o’r siop:
Afalau i Aron, chwe chant ohonyn nhw,
Beic i Ben, un mawr a thrwm,
Calendr i Cassy, cofia un anifail iddi hi,
Drymiau i Deian, rhai coch a gwyrdd,
Enfys i Efa, un pob lliw,
Fan i Fanw, i ddysgu dreifio meddai hi,
Fferins i Ffion, i fwyta i bwdin,
Gofodwyr i Geraint, un mawr ac un bach,
Hufen iâ i Henri, un siocled mewn côn,
Ieir i Iago, i gael wyau bob bore,
Jeli i Jac, un sigledig iawn,
Loli i Lewis, un mefus a kiwi,
Llafnau rholio i Llion, rhei sydd yn mynd yn gyflym, gyflym,
Môr leidr i Mabon, un mawr a chas,
Neidr i Nansi, un babi iddi hi,
Organ geg i Owain, i wneud cerddoriaeth drwy’r nos,
Peipen i Pedr, i drwsio’r boeler,
Radio i Ria, i wrando ar bob tiwn,
Rhaff sgipio i Rhian, un 2 metr o hyd,
Si-so i Swyn, i chwarae efo dad,
Tennyn i Tirion, i fynd a’r ci am dro,
Uchelseinydd i Ursula i ganu i mam,
Wyau i Wyn, i wneud cacen,
Ysgytlaeth i Yvette, ar ôl rhedeg 50 metr,
Dw wedi cael popeth rŵan, neu ydw i?
Sialens Wythnosol 4
I Amgueddfa Werin Sain Ffagan yr aethon ni yn sialens wythnosol 4 gyda llun o Lys Llywelyn i’w ddefnyddio fel ysbrydoliaeth.
Bore da, bawb ☀️ Gobeithio eich bod wedi cael penwythnos braf!
Dyma Sialens Wythnosol #4
(mae'r llun yn y tweet nesa')@AmgueddfaCymru@StFagans_Museum#HandsOnHeritage@HeritageFundUK @Amgueddfa_Learn pic.twitter.com/Vz8Q8z5Qvk
— Bardd Plant Cymru (@BarddPlant) April 20, 2020
Adnoddau Oes y Tywysogion gwych ar gael i'ch helpu gyda'ch cerddi wythnos yma. Diolch yn fawr!! https://t.co/sU88gAyynQ
— Bardd Plant Cymru (@BarddPlant) April 22, 2020
Diolch i Amgueddfa Genedlaethol Cymru am yr ysbrydoliaeth.
Dyma gerdd acrostig gan Henry am Lys Llywelyn
Acrostig gan Henry @BroCinmeirch am Lys Llywelyn yn @StFagans_Museum
Da iawn ti! pic.twitter.com/eniHLH9Mjv— Bardd Plant Cymru (@BarddPlant) April 24, 2020
Llys Llywelyn, gan Seren
Y milwyr yn sefyll ar bwys y gât
Yn barod am frwydr fawr.
To gwellt, croesau a jwgs lliwgar
Sy’ yn y llys gwerthfawr hwn.
Y gwesition yn barod i helpu
I wneud bwyd neu arf cryf.
Yr arf metal a’r ddraig goch,
Dyna pwy ydy’n milwyr ni.
Du, brown a melyn, dyna
Liwiau’r ceffylau tal a hir.