Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Y Delyn Aur

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Y Delyn Aur gan Malachy Owain Edwards, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg.
Y Delyn Aur, Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Dyma gofiant unigryw yn y Gymraeg gan awdur ifanc sy’n ein tywys ar daith ddadlennol a phersonol. Mae Malachy Edwards yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth iddo olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados.
Yn gefndir i’r gyfrol mae ein hanes diweddar ni, yn cynnwys Brecsit a Covid-19. Mae’r awdur yn ysgrifennu’n onest am brofiadau mawr ei fywyd fel geni ei blant a cholli aelodau teulu agos, ceisio am ddinasyddiaeth Ewropeaidd a’i brofiadau fel Cymro Du Cymraeg. Bydd y gyfrol arbennig hon yn eich annog i feddwl.
Am yr Awdur
Yn enedigol o Lundain ac wedi ei fagu yn Ffynnon Taf mae Malachy bellach yn byw ar Ynys Môn. Cafodd cofiant ffeithiol greadigol yr awdur, Y Delyn Aur eu gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd 2023. Ynddo mae Malachy yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados.
Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilio i’r dilyniant yn ei gyfres gofiannol ffeithiol greadigol, Paradwys Goll a gyhoeddir yn 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.
Gwylio, Darllen, Gwrando!
Trafodwyd Y Delyn Aur ar bodlediad Colli’r Plot fis Chwefror 2024: Cyngor i awduron newydd
Cafodd Malachy Edwards sgwrs gyda Guto Dafydd a Mari Siôn ar bodlediad Caru Darllen ym mis Tachwedd 2023.
Prynu’r Llyfr
Gallwch brynu Y Delyn Aur trwy wefan Gwales.