Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Y Traeth o Dan y Stryd

Cyhoeddwyd Gwe 31 Mai 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Y Traeth o Dan y Stryd

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.

Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Y Traeth o Dan y Stryd gan Hywel Griffiths, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Barddoniaeth Cymraeg.

 

Y Traeth o Dan y Stryd, Hywel Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas)

Yn y casgliad newydd hwn gan y Prifardd Hywel Griffiths, mae’r bardd o Aberystwyth yn cyffwrdd â sawl thema sy’n agos iawn at ei galon – o’r argyfwng newid hinsawdd a chenedlgarwch, i’r profiad o fod yn dad a threigl amser.

 

Am yr Awdur

Mae Hywel Griffiths yn fardd ac yn ddaearyddwr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yn 2008 a’r Gadair yn 2015. Mae’n cyfrannu at y Talwrn fel aelod o dîm y Glêr ac yn ymrysona gyda thîm yr Ymryson. Afonydd a llifogydd yw ei arbenigedd fel daearyddwr ac mae hynny’n ysbrydoliaeth i’w waith creadigol yn aml. Mae’n byw yn Llanbadarn Fawr gyda’i wraig, Alaw, a’i blant, Lleucu a Morgan. Y Traeth o Dan y Stryd yw ei bedwaredd gyfrol o farddoniaeth.

 

Gwylio, Darllen, Gwrando!

Sgwrs rhwng Golwg360 a Hywel Griffiths ym Mai 2024.

Fideo Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ym Mawrth 2023.

Fideo Y Traeth o Dan y Stryd gan Barddas ym Mawrth 2023.

Prynu’r Llyfr

Gallwch brynu Y Traeth o Dan y Stryd trwy wefan Gwales.

Prynu Nawr