Agor Arddangosfa | Cartographic Imaginaries
*Launch event: Artists talk with Seán Vicary and Prof Kirsti Bohata | 4:45 – 6.00yb
*Agor Arddangosfa | 6 – 7:30yb
Mae Cartographic Imaginaries yn cyflwyno casgliad ysbrydoledig o waith celf a gomisiynwyd mewn ymateb i ddeuddeg nofel Saesneg sydd wedi’u gosod yng Nghymru. Mae’r rhain yn rhan o brosiect ehangach Literary Atlas of Wales, sy’n ymchwilio i sut mae llyfrau a mapiau’n ein helpu ni i ddeall natur ofodol y cyflwr dynol. Yn fwy penodol, mae’n edrych ar sut mae nofelau Saesneg sydd wedi’u gosod yng Nghymru yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o natur wir a ddychmygol y wlad, ei hanes a’i chymunedau.
Artistiad: John Abell, Iwan Bala, Valerie Coffin Price, Liz Lake, Richard Monahan, George Sfougaras, Joni Smith, Amy Sterly, Locus Sheepshagger, Rhian Thomas and Seán Vicary.
Mae prosiect Literary Atlas of Wales yn cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. www.literaryatlas.wales
Lansio’r Arddangosfa, Dydd Sadwrn 9 Chwefror, Oriel Davies, 6-7:30yb. Bydd lluniaeth ar gael, croeso i bawb. Bydd yr anerchiadau am 6:30pm gyda Jon Anderson, Athro mewn Daearyddiaeth Dynol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Phrif Ymchwilydd prosiect Literary Atlas.
Ar ddydd Sadwrn 9 Chwefror, 4:45 – 6yb bydd yr artist Seán Vicary yn sgwrsio gyda’r Athro Kirsti Bohata o Brifysgol Abertawe, ac yn trafod ac yn sgrinio ei ffilm ‘Sitelines’, sef ymateb i nofel gwlt Alan Garner ‘The Owl Service’.
Kirsti Bohata, athro mewn Llenyddiaeth Saesneg, Prifysgol Abertawe. Mae Kirsti yn gweithio ym maes ysgrifennu yn Saesneg a theori ôl-drefedigaethol, gyda diddordeb arbennig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg hwyr. Mae hi’n Gyfarwyddwr CREW (Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru), ac yn awdur Postcolonialism Revisited: Writing Wales in English (2004).
Am ragor o wybodaeth http://www.orieldavies.org/en/exhibition/cartographic-imaginaries-interpreting-literary-atlas-wales