Ymunwch â ni nos Iau 10 Rhagfyr am sgwrs rhwng Richard Owain Roberts, awdur enillodd wobr gyda’i nofel gyntaf ‘Hello Friend We Missed You,’ a’r golygydd a chyfieithydd Gwen Davies.

Cynhelir y digwyddiad o dan ofal siop lyfrau Awen Menai ym Mhorthaethwy, yn y rhan hyfryd o Gymru sy’n lleoliad i lyfr Roberts – ar y cyd â Parthian Books a Chyngor Llyfrau Cymru. Bydd y noson yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, ac mae croeso i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Bydd copïau wedi’u llofnodi o ‘Hello Friend We Missed You’ ar gael i’w prynu ar-lein neu drwy ymweld â siop Awen Menai.