A Celebration of Wales Book of the Year
Noson gyda Tom Bullough, Nicola Davies a Jackie Morris, tri o artistiaid ac awduron sy’n angerddol am fywyd gwyllt.
Yn 2021 cerddodd Tom Bullough ar hyd Cymru, gan ddilyn ôl troed hynafiaethwyr, i chwilio am atebion. Tyfodd Sarn Helen o’r daith hon. Wedi’i ddisgrifio gan Cerys Davies fel ‘part love letter, part lament, part call to-action’ mae’n glasur modern.
Wedi cipio teitl Llyfr y Flwyddyn 2024 gan Llenyddiaeth Cymru, dyma gyfle i glywed darlunydd Tom a Sarn Helen, Jackie Morris, yn sgwrsio am greu’r llyfr, a’r themâu niferus sy’n edefyn drwy ei dudalennau. Dan gadeiryddiaeth Nicola Davies, enillydd Llyfr Plant a Phobl Ifanc y Flwyddyn, gyda Skrimsli, a ddarluniwyd hefyd gan Morris. Mae Skrimsli yn crwydro’r un themâu â Sarn Helen, trwy ffuglen a ffantasi, stori gyffrous am antur fentrus.
Bydd y noson yn dathlu’r wobr, ac yn mynd â chi ar daith drwy amser a lle, yn codi eich ysbryd ac yn rhoi gobaith i chi.
Dyma’r hyn oedd gan un o feirniaid ar banel Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2024, Dylan Moore, ei ddweud:
“Despite the fierce competition from fabulous and fantastical fiction and dazzling verse, [Sarn Helen] stood out. It is the one that will stay with us longest. The depth of its explorations and stark facts, and the momentous import of its message, carries it beyond the prize and into the realm of a true modern classic.”