Bwyta dy galon allan, Llwybr 66, mae gennym yr A470 a’r beirdd i brofi hynny!

Rydym yn dal i weithio ar y manylion ond bydd y digwyddiad yn ddwyieithog, yn cael ei gyflwyno gan y golygyddion Sian Northey a Ness Owen, ac yn cynnwys cerddi gan Adele Evershed, Angela Graham, KS Moore, Mike Jenkins, Rae Howells [awdur y mis Llyfrgelloedd Cymru ar gyfer mis Mawrth], Rebecca Lowe, Siôn Aled, Sammy Weaver, David Matthews, Cas Stockford, Seth Crook, Simon Chandler ac eraill.

A470 Poems for the Road – Cerddi’r Ffordd

Bosib y ffordd fwyaf adnabyddus yng Nghymru, mae’r A470 yn ymestyn am 186 milltir o arfordir y gogledd i arfordir y de trwy ganol Cymru. Ar ei hyd gwelir traethau a chwareli, atomfa ac awyrennau hyfel, mynyddoedd a’n prifddinas.

Yn y gyfrol hon cawn 51 o gerddi gwreiddiol, wedi’u cyfi eithu o’r Gymraeg, neu i’r Gymraeg, i greu casgliad dwyieithog sydd yn ein harwain ar hyd yr A470.