Cyfres o drafodaethau ‘Unfolding Our Shared Future: Challenge, Possibility and Potential in the 21st Century’ – gŵyl deithiol sy’n trafod materion sy’n wynebu’r Unol Daleithiau a’r DU mewn cyd-destunau cartref, trawsatlantig a byd-eang.

Darperir y gyfres gan Grŵp Gwleidyddiaeth Americanaidd y Political Studies Association a’r prifysgolion sy’n cymryd rhan, gyda chymorth BAAS (Cymdeithas Astudiaethau Americanaidd Prydain) a Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain.

Bydd y digwyddiad yn Abertawe yn edrych ar y ffordd y gallai’r drefn ryngwladol newid dros y degawd nesaf. Bydd y pynciau’n cynnwys y berthynas arbennig rhwng yr Unol Daleithiau a’r DU ac effaith Brexit, ynghyd â’r rhyfel presennol yn Wcráin a’i oblygiadau i wleidyddiaeth a diogelwch rhyngwladol. Bydd y digwyddiad hefyd yn archwilio materion sy’n ymwneud ag argyfwng y drefn ryddfrydol ryngwladol, fel y’i gelwir, a’r ymateb byd-eang iddo.

 

Siaradwyr:

Dr Luca Trenta (Cadeirydd) – Athro Cysylltiol mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Tommy Curry (Prifysgol Caeredin) – ef fydd un o’n dau siaradwr yn y digwyddiad. Mae’n athro yn yr Ysgol Athroniaeth, Seicoleg a Gwyddorau Iaith. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil mewn athroniaeth Affricanaidd a thraddodiad radical pobl ddu. Ei feysydd arbenigol yw: ethnoleg y 19eg ganrif, damcaniaeth hil feirniadol ac astudiaethau dynion du. Ef yw awdur The Man-Not: Race, Class, Genre, and the Dilemmas of Black Manhood (Temple University Press 2017), a enillodd Wobr Llyfr Americanaidd 2018.

Ashlee Godwin (RUSI/Atlantic Council) – hi fydd ein hail siaradwr yn y digwyddiad. Mae’n uwch-arbenigwr mewn diogelwch cenedlaethol a pholisi rhyngwladol yn Nhŷ’r Cyffredin yn y DU. Yno, mae’n rheoli tîm o arbenigwyr sy’n darparu arbenigedd mewn polisi ac yn ymgynghori arno, gan weithio i gefnogi’r holl bwyllgorau dethol sy’n ymdrin â materion rhyngwladol.

*Yn bersonol ac ar-lein*

OS YDYCH YN MYNYCHU YN BERSONOL ARCHEBWCH YMA: bit.ly/IPUSEuropeFuture

Mae derbyniad yn Adeilad Faraday o 18:00 ar gyfer pawb sy’n mynychu’n bersonol.

OS YDYCH YN CYNLLUNIO I WYLIO AR-LEIN COFRESTRWCH YMA: bit.ly/WEBUSEuropeFuture