Gwahoddiad arbennig i fwynhau noson yn yr Amgueddfa yr holl ffordd o adref.
Dyma fydd yn digwydd:
– Adeiladu nyth a pharatoi i weld yr Amgueddfa mewn ffordd hollol wahanol.
– Mynd am daith fflachlamp ar-lein drwy’r Amgueddfa gyda’n arbenigwr deinosoriaid.
– Dweud helo wrth rai o’r deinosoriaid cyfeillgar sy’n crwydro’r adeilad.
– Beth fyddi di am y noson – T. Rex neu Triceratops? Beth am greu masg deinosor dy hun!
– Mwynhau amser stori cyn gwely, cyn gwersylla yn dy nyth deinosor a breuddwydio am fyd Jwrasig.
– Dihuno’n gynnar am frecwast ac ymuno â dosbarth yoga i’r teulu cyfan.