12:15 – 13:15

Ymunwch â Lowri am sesiwn fywiog o flasu a sgwrsio am bopeth yn ymwneud â bwyd. Ar y fwydlen, bydd sôn am wahanol flasau, nostalgia, atgofion, teithio, gramadeg bwyd a chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau fel adolygydd bwyd.
Ar hyn o bryd, mae gan yr awdur o Gaerdydd nofel, a dau lyfr bwyd ar y gweill ac mae hi hefyd yn gwneud gwaith creadigol gyda gwahanol ysgolion. Hi oedd golygydd cyntaf a sefydlwr y cylchgrawn Taste/Blas. Mae hi hefyd yn ysgrifennu i gylchgrawn Barn, Y Dinesydd a Croeso Cymru/ Visit Wales.
Llyfr diweddaraf Lowri yw Bwytai Cymru (Gwasg Gomer) dathliad o’r 50 bwyty gorau yng Nghymru. Hi hefyd yw awdur Canllaw Bach Caerdydd – llyfr sydd yn tywys y darllenydd o gwmpas Caerdydd. Ei llyfr arall yw Caffis Cymru adolygiad o gaffis gorau Cymru.
Ar ôl ennill gradd mewn Daearyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth aeth Lowri ymlaen i ennill M.A ym maes Theatr, Ffilm a Theledu.
Mae Lowri hefyd yn wyneb a llais cyfarwydd ar S4C a Radio Cymru yn adolygu ffilmiau. Felly dewch a’ch tips sinema ynghŷd a’ch chwant bwyd i’r sesiwn hwn!

*Ticket price includes booking fee