Lle yw Fforwm Artistiaid ar gyfer ymgynnull a thrafod rôl celf gyfoes yn y gymdeithas a’r themau a materion sy’n codi o’r gwaith ar restr fer Artes Mundi 8. Dyma hefyd gyfle unigryw i gwrdd a chreu rhwydweithiau gyda chyd-weithwyr yn sector y celfyddydau gweledol a chysylltu â’r artistiaid ar y rhestr fer mewn sesiynau holi ac ateb.

Mae’r gwaith yn yr arddangosfa yn pontio pedwar cyfandir ac ystod amrywiol o ffyrdd o weithio. Mae’r darluniadau, paentiadau, alldoriadau a gosodiadau gan Anna Boghiguian yn cael eu dylanwadu gan athroniaeth, barddoniaeth gwleidyddiaeth a lle, gan fynd ar drywydd economïau cymhleth grym byd-eang.

Trwy ei defnydd o ffilm, mae Bouchra Khalili yn archwilio’n ddeheuig dinasyddiaeth a ffyrdd o wrthsefyll, gan greu llwyfannau dinesig lle y gellir clywed lleisiau a hanesion sydd wedi cael eu distewi a gwthio i’r ymylon.

Mae tapestriau, gosodiadau cymhleth a hudol Otobong Nkanga a’i defnydd o fwynau a deunydd organeg yn archwilio ein perthynas, sy’n newid ar ruthr, gyda’r tir ac ôl-effeithiau gwladychiaeth.

Mae defnydd unigryw Trevor Paglen o ffotograffiaeth, cydweithio gwyddonol a newyddiadura, yn cynnig cyfle i weld yr anweledig wrth ymchwilio i weithrediadau celgar y llywodraeth, goruchwyliaeth a strwythurau cudd awdurdod, tra bod ffilmiau myfyriol a breuddwydiol Apichatpong Weerasethakul yn archwilio bwganod hanes Gwlad Thai, lleoliadau trothwyol mewn cof a hunaniaeth, a chyd-ymwybyddiaeth a pherthyn.