Ymunwch ag asiantiaid llenyddol o Gymru, Anwen Hooson, Cathryn Summerhayes a Caryl Lewis. Bydd cyfle i ddysgu mwy am rôl yr asiant llenyddol, a sut y maent yn ffitio mewn i fecanwaith cymhleth y byd cyhoeddi. Bydd Anwen a Cathryn yn rhoi gair o gyngor ar sut i ddod o hyd i’r asiant cywir, ac yn trafod eu gwaith gyda rhai o’r awduron mwyaf poblogaidd sy’n cyhoeddi ar hyn o bryd. Bydd cyfle i drafod y gwahaniaethau rhwng y bydoedd cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt a chyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau. 

Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd 

Archebu eich lle 

 

DechreuoddAnwen Hoosonei gyrfa yn adrannau’r wasg yn Penguin a Waterstones, cyn cyd-sefydlu Riot Communications, a ddaeth yn gyflym yn un o’r asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus mwyaf uchel ei barch a dylanwadol yn y diwydiant cyhoeddi. Yn 2018, lansiodd Anwen Bird Literary Agency, gyda’r bwriad o fagu llyfrau a fyddai’n ysbrydoli ac yn pryfocio. Ymhlith ei hawduron mae Caryl Lewis, Liz Hyder, Kirsty Capes, Huw Aaron, Jodie Lancet-Grant a Moira Buffini. Roedd Anwen yn feirniad yn y British Book Awards 2018-2022, a cafodd ei henwebu ar gyfer y wobr Asiant Llenyddol y Flwyddyn yng y British Book Awards 2023.  

Ail ymunodd Cathryn Summerhayes ag asiantaeth Curtis Brown ym Medi 2016, a hithau wedi cychwyn ei gyrfa fel asiant llenyddol yn wreiddiol yn 2004. Sefydlodd restr amrywiol o gleientiaid i asiantaeth WME lle bu’n gweithio am ddegawd. Cyn hynny bu’n gweithio i sawl asiantaeth llenyddol arall a gyda chwmni Colman Getty PR – lle bu’n gweithio ar sawl digwyddiad llenyddol mawr gan gynnwys Gwobr y Man Booker. Yn 2019 cafodd ei henwo yn Asiant y Flwyddyn yn y British Book Awards. Ymysg ei chleientiaid y mae Adam Kay, Lucy Foley, Chris Whitaker, Anita Rani, Shappi Khorsandi, Ashley ‘Dotty’ Charles, Nicky Campbell, Mark Watson, Naomi Wood, Kirsty Logan, Susan Fletcher, Johanna Basford, Grace Dent, Sir Ranulph Fiennes, Deliciously Ella a Konnie Huq.  

Mae Caryl Lewis yn ddramodydd a sgriptiwr Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei nofel arloesol Martha, Jac a Sianco (2004) yn cael ei hystyried yn glasur modern o lenyddiaeth Gymraeg, ac mae’n rhan o’rcwricwlwm Cymreig. Aeth yr addasiad ffilm – gyda sgript gan Caryl Lewis ei hun – ymlaen i ennill chwe gwobr BAFTA Cymraeg a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010. Mae ei gwaith sgriptio sgrîn hefyd yn cynnwys y ffilmiau cyffro BBC/S4C Hinterland a Hidden. Mae’n  ddarlithydd gwadd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn byw gyda’i theulu ar fferm ger Aberystwyth.