Ymunwch â Common/Wealth ym Mhafiliwn Grange i weld dangosiad ffilm arbennig iawn o Authors of the Estate, ac yna sgwrs gyda Nabil Al-Kinani, Abdou Cisse, ac André Anderson. Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar 27 Chwefror, rhwng 6pm ac 8pm. Mae tocynnau am ddim, ond rhaid eu harchebu drwy Eventbrite.

Mae Authors of the Estate yn rhaglen ddogfen newydd, bwerus, sy’n dathlu cymuned sy’n adhawlio ei stori. Mae’r rhaglen ddogfen yn dilyn prosiect lle mae trigolion ystad cyngor yn ysgrifennu eu straeon, gan droi tai cyngor yn dai cyhoeddi.

Dim ond 1 o bob 10 awdur ym Mhrydain sy’n perthyn i’r dosbarth gweithiol. Yn aml, mae cymdogaethau dosbarth gweithiol yn dod yn estheteg i frandiau, yn fwch dihangol i wleidyddion, ac yn darged i ddatblygwyr. Mae Authors of the Estate yn newid hynny i gyd.

Mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect cyhoeddi ar lawr gwlad wedi esblygu’n rhaglen ddogfen sy’n rhoi llais i’r lleisiau hynny, gan ddod â’u geiriau’n fyw ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o awduron o ystadau ledled y Deyrnas Unedig.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan/Eventbrite