Mae Ponty Poetry yn gyfle newydd i feirdd sefydledig ac egin lenorion De Cymru ddarllen, a gwrando ar, farddoniaeth ei gilydd yn awyrgylch hwyliog y Cwtch Cafe. Gwestai arbennig y mis hwn yw Philip Goss! Mae Philip wedi cyhoeddi bron i 30 o gasgliadau o farddoniaeth. Cyrhaeddodd ei ddiweddaraf, The Thirteenth Angel, restr fer Gwobr TS Eliot.

Croeso i bawb, boed hynny i gyfrannu neu dim ond i wrando a mwynhau! Does dim angen archebu lle, dewch draw ar y diwrnod!