Bore o ddathlu Grŵp Sgwennu Diosg gyda cherddi a sgwrs gan Casia William ac awduron eraill, ynghyd â dadorchuddio comisiwn celf newydd gan yr artist, Catrin Williams.

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 15 Mawrth 2025, rhwng 11.00am – 12.30pm yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda. Mi fydd paned a chacen ar gael.

Croeso cynnes i bawb!