Ymunwch â ni arlein i ddathlu cyhoeddi A Ray of Darkness a The Nightingale Silenced gan Margiad Evans fel rhan o gyfres Honno Women’s Classic, argraffnod sy’n dod â llyfrau allan o brint yn Saesneg gan awduron benywaidd o Gymru i genhedlaeth newydd o darllenwyr.

Roedd Margiad Evans, a aned Peggy Whistler, yn llenor, yn fardd, yn arlunydd ac yn awdur a chanddi affinedd gydol oes â’r gororau. Mae The Nightingale Silenced (a drawsgrifiwyd gan ei nai Jim Pratt o lawysgrifau nas cyhoeddwyd o’r blaen) yn cynnig hanes unigryw o flynyddoedd olaf bywyd Margiad Evans, a newidiwyd yn ddiwrthdro gan ddechrau epilepsi yn 41 oed. Mae A Ray of Darkness yn dilyn y gwaith yma, ac mae’n parhau i fod yn un o’r ychydig ddarnau a ysgrifennwyd am epilepsi gan un o ddioddefwyr y clefyd hwn.

Yn cynnwys cyflwyniadau, trafodaeth banel gyda’r siaradwyr Jim Pratt, Yr Athro Peter Wolf, Dr. Julie Thompson-Dobkin, Dr. Ceridwen Lloyd-Morgan a Jane Aaron, mae Dathlu Margiad Evans yn gyfle unigryw i ddysgu mwy am yr awdur clodwiw hwn a’i gwaith .